Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/62

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

A. J. Parry. Yr oedd yn anhawdd cael gweinidog ac eglwys mwy hoff o'u gilydd na hwy. Bu farw Dr. Evans dydd Llun, Mawrth 28, yn 79 mlwydd oed.-(Geir. Byw. Aberdâr.)

EVANS, Parch. JOHN, o'r Bala, ydoedd wladwr Cymreig synwyrlym a phrofiadol, a phregethwr tra defnyddiol gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, pan oedd yr enwad hwnw yn ei fabandod. Ganwyd ef Hydref 30, 1723, mewn lle o'r enw Glanyrafon, yn mhlwyf Gwrecsam, sir Ddinbych. Llafurwr oedd el dad, o'r enw William Evans, a bydwraig oedd ei fam, o'r enw Ann Evans. Rhoddasant ysgol i John pan ydoedd yn lled ieuanc, ac ymddengys ei fod yn ddysgwr cyflym. Medrai ddarllen ei Fibl yn Gymraeg a Saesneg pan rhwng naw a deg oed, ac yr oedd ganddo ryw grap bychan ar rifyddu ac ysgrifenu, yr hyn oedd yn gryn beth yn yr oes hono. Pan oedd yn 4 oed symudodd el rieni i fyw i Adwy'r Clawdd. Pan yn 12 neu 13 oed rhoddwyd ef yn egwyddor-was o wehydd. Cyn hir daeth i'r Bala at wehydd crefyddol, i weithio ei waith, yn nhŷ yr hwn yr arferai naw neu ddeg o'r Methodistiaid ymgasglu i addoli, ac yn fuan ymunodd J. Evans à hwy fel aelod. Priododd Margaret, merch Morys ab Robert, o'r Bala, yn 1744. Ymhen ugain mlynedd wedi dyfod at grefydd dechreuodd bregethu, a chafodd ei erlid a'i faeddu yn ddidrugaredd lawer gwaith yn y rhan gyntaf o'i oes weinidogaethol. Pregethwr oedd ef yn amcanu mwy am y deall nag am y teimladau. Pregethwr pwyllog, arafaidd, a synwyrol ydoedd, yn traddodi y gwirionedd mewn symlrwydd dull, iaith, a meddyliau. Oherwydd ei ddoethineb a chyflawnder ei brofiad dodid lle uchel iddo yn nghynghorau yr enwad. Ar neillduad cyntaf pregethwyr o'r cytundeb i weinyddu yr ordinhadau, yn 1811, John Evans a gymerai ran flaenllaw yn yr ymdrafodaeth. Fe ddywedir mai gwr cadarn iawn yn y ffydd ydoedd John Evans. Bu yn ffyddlawn o blaid y gwirionedd am 35 o flynyddau. Yr oedd yn un o'r rhai enwocaf mewn fraethineb. Bu farw Awst 12, 1817, bron yn 94 oed. (Meth. Cyum (lawer iawn o'i hanes); Ei fywyd; Geir. Byw., Liverpool, .Aberdâr.)


EVANS, Parch. ROBERT, Talybont, ger y Bala, ydoedd fab i'r hen bregethwr hybarch Evan Ffoulkes, Llanuwchlyn, a brawd i'r Parch. Ffoulke Evans Machynlleth. Efe a ddechreuodd