Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/63

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn nghyfundeb y Trefnyddion Calfinaidd, pan yn cyfaneddu yn agos i'r Roe, sir Ddinbych. Bu yn pregethu am yn agos i ddeu gain mlynedd. Yr oedd efe yn dduweinydd manylaidd, yn ymresymwr cadarn, ac yn ymadroddwr parod; a chlywsom ef ar amserau yn cael odfaon nodedig o wlithog ac effeithiol. Wedi nychdod lled faith efe a fu farw Mai 22, 1854, yn 65 oed.

EVANS, Parch. ROBERT, Llanidloes. Yr oedd efe yn fab i John a Jane Evans, Llangower, ger y Bala, ac yn frawd i'r Parch: Daniel Evans, Penrhyndeudraeth. Yr oedd ei rieni yn aelodau gyda'r Annibynwyr. Ganwyd ef yn 1784. Cafodd ysgol yn dda gan ei rieni; a phan oedd yn 13 oed gadawodd ei rieni, ac aeth i'r Bala at ewythr iddo, yn wehydd. Yn fuan ymunodd â'r Methodistiaid Calfinaidd, a bu am 10 mlynedd yn yr athrofa grefyddol yno. Pan yn 23 oed, anfonodd Mr. Charles ef i Langynog i gadw ysgol ddyddiol. Bu wrth y gorchwyl hwn am 11eg o flynyddau o dan arweiniad Mr. Charles, yn Llangynog, Llansilyn, Llanrhaiadr-yn-Mochnant, &c. Bu yn hynod o ffyddlon a llafurus gyda'r rhan yma o'i waith, fel y bu yn foddion i wneyd llawer iawn o ddaioni. Bu am amryw flynyddau yn cadw ysgol wedi iddo ddechreu pregethu. Yn y flwyddyn 1818, pan yn 34 oed, ymsefydlodd yn Llanidloes, a bu yno am 36 o flynyddau goreu ei oes. Yr hyn a'i dygodd i Lanidloes i fyw oedd priodi gwraig grefyddol o'r enw Jane Thomas. Yr oedd Mr. Evans yn ddyn o synwyr, galluoedd, a doniau naturiol, yn tra rhagori ar y cyffredin; fel Cristion, "Yn Israeliad yn wir:" fel gweinidog yr oedd yn ofalus ac yn llafurus, a ffyddlawn ar ei holl dŷ. Yn 1854 symudodd i Aberteifi i fyw, ac yn Awst 24, 1860, bu farw, wedi pregethu tua 7488 o bregethau; a gweinidogaeth bywyd oedd ei weinidogaerh ef.— (Geir. Byw., Aberdâr.)

EVANS, Parch. WILLIAM, oedd fab i Evan a Jane Evans, o'r Bala, lle ganwyd ef yn Mai, 1773. Canfu ei dad ynddo yn ieuanc duedd at lyfrau, ac hefyd at y weinidogaeth Gristionogol, a rhoddodd ef pan yn ieuanc o dan ofal athraw yn yr ieithoedd dysgedig, lle y bu am bum' mlynedd yn derbyn elfenau dysgeidiaeth. Dangosodd duedd a dawn at farddoniaeth Gymreig. Pan oedd yn 14 oed etholwyd ef yn feirniad ar y farddoniaeth yn eisteddfod y Bala y flwyddyn hono,—sef i gyd-feirniadu âg un o'r