Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/64

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

enw Robert Hughes. Yn 1791, derbyniwyd ef i athrofa yr Annibynwyr a gynelid y pryd hyny yn Nghroesoswallt, dan ofal y diweddar Dr. E. Williams, (wedi hyny o Rhotherham), ac ar ol hyny o dan ofal y Parch. Jenkyn Lewis, Gwrecsam, lle y dewiswyd ef yn athraw yr ieithoedd; ac ar yr un pryd helaethai ei gyrhaeddiadau, yn neillduol yn yr Hebraeg a Duwinyddiaeth. Yn 1795, ordeiniwyd ef yn weinidog cynulleidfa yn Stockport, o'r hwn le y cymerodd ran helaeth yn nhrefnyddiaeth y cyfundeb Annibynol, trwy sefydlu undeb gweinidogion a chynulleidfaoedd Sir Caerlleon. Rhoddwyd terfyn ar ei lafur, ar ol gwaeledd maith, Medi 29, 1814, yn 42 oed.—(G. Lleyn; Evang. Mag. vol. 24).

EVANS, Parch. WILLIAM, o'r Fedw Arian, ger y Bala, oedd un o'r pregethwyr cyntaf y Methodistiaid Calfinaidd yn y cymydogaethau hyny. Bu yn llafurus a diwyd yn cyhoeddi yr efengyl ar hyd conglau tywyll o'r wlad nes yr anhwyluswyd ef gan y parlys, yr hwn a effeithiodd ar ei gof, ac a wanhaodd ei synwyrau amser cyn ei farwolaeth. Dywedir fod ei ddoniau fel pregethwr yn dragwlithog a phoblogaidd. Y mae llawer o'i hanes a'r erledigaethau chwerwon a gafodd yn Meth. Cym. a Drych yr Amseroedd: (Meth. Cym., cyf. I., t.d. 533, cyf. III., t.d. 197; Drych yr Am. t.d. 175, 213). Y mae ychydig o farddoniaeth o'i eiddo yn argraffedig:-1. "Marwnad i Jane, gwraig Mr. T. Foulkes, o'r Bala, Trefecca, 1786. " (Gwraig gyntaf Mr. Foulkes, a mam gwraig Mr. Charles). 2. "Llyfr Hymnau bychan, o waith W. Evans ac E. Parry, Llansanan."

EVANS, Parch. FOULK, Machynlleth, gweinidog gyda'r Trefnyddion Calfinaidd, a mab Evan Foulk, Llanuwchllyn, yn Mhenllyn. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1783. ' Yn 1825, symudodd i Fachynlleth. Teithiodd lawer drwy holl siroedd Gogledd a Debeudir Cymru i bregethu; er hyny, bu yn ymdrechgar iawn yn ei gartref, a'r ardaloedd cylchynol, yn pregethu ac yn cadw cyfarfodydd eglwysig ar nosweithiau yr wythnos. Llafuriodd hyd y diwedd i wneuthur pregethau newyddion, a darllenodd lawer ar weithiau yr hen dduwinyddion goreu. Nid ymataliodd rhag mynegi i'w wrandawyr, "holl gyngor Duw," ac yr oedd y "pethau buddiol" yn amlwg ymbob pregeth. Pan yn ymweled âg eglwysi dros y cyfarfod misol cyflawnai ei oruchwyliaeth yn ffydd lon a thrwyadl. Mewn cadw cymdeithas eglwysig, ni welwyd neb