Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/65

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn fwy medrus ac adeiladol. Efe oedd y pregethwr hynaf yn y cyfundeb yn adeg ei farwolaeth. Ac yn holl ystod ei weinidogaeth hirfaith, bu ei gymeriad yn ddifefl a diargyhoedd. Gorphenodd ei yrfa ddaearol Mawrth 8fed, 1866, yn 83 mlwydd oed, wedi bod yn pregethu oddeutu 61 o flynyddoedd, ac wedi ei gwbl neillduo i holl waith y weinidogaeth yn y flwyddyn 1828. (Gweler ei " Gofiant, " gan y Parch. J. Ogwen Jones, B.A. Bala, argraffwyd gan Mr. Edward Jones.)

FYCHAN, JOHN, ydoedd un o Fychaniaid Caergai, yn Mhenllyn. Yr oedd yn fardd Cymreig enwog. Y mae e'i waith "Gywydd y Gynddaredd, " a gyfansoddodd ar rwysg Cromwell, er mewn iaith fwys, rhag ei gyhuddo; a cheir ei enw wrtho yn Lladin, Johannes Vaughan de Caergai."—(G.Lleyn.)

FYCHAN, ROWLAND, Ysw., o Gaer Gai, Llanuwchlyn, ger y Bala. Yr oedd yn tarddu o hen deulu o'r un enw ag oedd yn meddianu y lle hwnw er's canoedd o flynyddoedd cyn ei amser ef. Y mae rhestr faith o achau Caergai ger ein bron, ond y mae yn llawer rhy faith i'w rhoddi i mewn yma. Yr oedd enwogrwydd yn perthyn iddynt fel teulu, neu genedl. Yr oedd un Gwerſyl Mechain, merch Hywel Fychan, yr hon oedd brydyddes, ac yn byw rhwng 1460 a 1490, yn y lle hwn. Brawd i hono, a mab i Hywel Fychan, o'r enw John Fychan, a briododd ferch un Cadben Madog, a mab iddynt hwythau, o'r enw Robert, a briododd etifeddes Gwern Brychdwn, yr hon oedd yn un o Lwydiaid Mathafarn, a merch i'r rhai hyny a briododd y Milwriad Salisbury, o Rug, ger Corwen. Yn nghofrestr siryddion Meirionydd, ceir fod John Fychan o Gaergai, yn sirydd yn 1615 ac 1622. Yn 1641, cawn Rowland Fychan, ac erail ' wedi hyny o'r teulu, yn siryddion. Cafodd ei ddysgeidiaeth yn Rhydychain, ond nid arhosodd yno i gymeryd y raddau. Gallwn dybied ei fod yn enwog fel milwr. Gelwid ef y Cadben Fychan, a dywedir iddo wasanaethu yn y fyddin o blaid y brenin; ac y mae prawf ei fod yn mrwydr Naseby. Yr oedd yn selog iawn dros y brenin; a darfu i'r blaid seneddol losgi ei dŷ a'i feddianau yn 1645, a'u trawsfeddianu. Dywedir hefyd iddo yntau fod yn garcharor yn Nghaerlleon am dair blynedd. Adferwyd ei feddianau, ac adeiladodd yntau ei dy eilwaith. Yr oedd Rowland Fychan, heblaw ei fod yn filwr dewr, a theyrngarwr enwog, yn fardd Cymreig rhagorol. Ond y mae yn