Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/66

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wir mai fel ysgrifenydd rhyddieithol da, ac am iddo ddefnyddio ei dalentau i ddiwyllio ei gydwladwyr tlodion, yr oedd yn enwog iawn. Cyfieithiodd lawer o lyfrau da, yr hyn sydd yn profi ei wladgarwch mawr, a'i fedrusrwydd yn iaith ei wlad. Byddai yn dda genym weled mwy o foneddigion ein gwlad yn efelychu Rowland Fychan, a Robert Fychan, Hengwrt, yn hyn, yn hytrach na dilyn cwn hela, dawns, a rhedegfeydd ceffylau a moch, ac. Bellach ceisiwn roddi crynodeb o'i lafur llenyddol:—1. Yn 1630, " Yr Ymarfer u Dduwioldeb," &c., o gyf. R. F. 2. Yn 1658, " Prif Fanau Crefydd Gristionogol a llwybreiddfodd byr o'r athrawiacth o honi," o gyf. R. F., Ysw. 3. Yn 1658, " Yr arfer o Weddi yr Arglwydd," ac., o gyf. R. F. 4. Yn 1658, ail argraffiad! 1690, Pregeth yn erbyn Schism, " &c., o gyf. R. F. 5. Yn 1658, 6. Prif-Fanau Sanctadd, neu Lawlyfr o weddiau a wnaethpwyd yn dair rhan, " &c., o gyf. R. F., Ysw. 6. Yn 1658, "Y llwybreiddfodd byr o Gristionogawl Grefydd," ac. 7. Yn 1658, " Ymddiffyniad rhag pla o Schism," &c., cyf. R. F. 8. Yn 1715, " Euchologia, yr athrawiaeth o arferol weddi, " cyf. R. F. Argraffwyd y " Llyfr Ymarfer o Dduwioldeb, " ac., chwech gwaith o 1630 i 1710. Y cyntaf yn 1630, yr ail yn 1656, y trydydd yn 1675, y pedwerydd yn 1685, y pumed yn 1700, y chweched yn 1710. Y mae Carolau a dyriſau o waith Row. Fychan mewn " Cerdd lyfr," o gasgliad Ffoulke Owen o Nantglyn, printiedig yn y Theater, yn Rhydychain, 1686. Hefyd y mae " Englynion i Wythnos Dyoddefaint Crist," o'i waith yn yr hen Ysgrif-lyfr Robert Thomas, Clochydd, Llanfair Talhaiarn, yn meddiant R. I. Jones, Tremadog.

FYCHAN, MARI, a adnabyddid yn y byd barddonol wrth yr enw Gwerfyl Mechain, oedd ferch i Hywel Fychan o Gaer Gai, yn Mhenllyn, ac yn byw rhwng 1460 a 1490. Yr oedd у farddones olafyn ei hoes. Ymysg ei gweithiau barddonol, ceir "Cywydd ar Ddyoddefaint Crist, " a " Chywydd y March Glas," y naill yn rhagori mewn symlrwydd a chywirdeb desgrifiadol, a'r llall yn arucheledd ei feddylddrychau a chywreindeb ei ddarluniad. Pan ddarfu i geffyl ei thad orwedd gan flinder ar yr âr wrth lyfnu, hi wnaeth yr englyn a ganlyn i erfyn am wair i'r march lluddiedig:—

Hen geffyl, gogul di gigog,—sypyn
Swper brain a phiog;
Ceisio ' rwyf—mae'n cashau'r ôg
Wair i Iuddew gorweddiog.