Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/67

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Canodd Gutto'r Glyn farwnad ar ei hol, ymha un y dywed:—

Am guddio hon mae gwaedd hir—
Ei Chywyddau ni chuddir.

Geilw hi yn "ferch i Tallwg," ond nid yw hyny ond dull cyffredin gan hen feirdd yr hen amser o alw rhywun yn fab neu ferch rhyw hynafiad enwog. Claddwyd hi yn Llanfihangel-yn-Ngwynfa, Sir Drefaldwyn.

GORONWY, BEFR, penaeth, neu dywysog Penllyn, yr hwn oedd yn byw tua diwedd y bumed ganrif. Y mae yn cael ei gofnodi yn y Trioedd fel blaenor у " tri anniwair deulu," neu lwythau anffyddlon Prydain; oblegyd mewn brwydr a ymladdwyd yn Cynfal yn Ardudwy, ni ddaeth yr un o honynt ymlaen i'w amddiffyn rhag gwaewffon wenwynig Llew Llawgyffes. Galwyd y lle y syrthiodd yn Llech Oronwy. Y ddau lwyth arall oedd eiddo y brodyr Gwrgi a Peredur, ac Alan Forgan.—(Myf. Arch. II. 3, 16, 770.)


FOULKES, Parch. EDWARD, Dolgellau, ydoedd bregethwr gyda'r Trefnyddion Calfinaidd. Ganwyd ef yn Llanuwchlyn, yn y flwyddyn 1763; a bu farw Ebrill 3ydd, 1853, yn 92 mlwydd oed. Yr oedd wedi dechreu pregethu er's 66 o flynyddoedd. Efe oedd un o'r pregethwyr mwyaf oedranus yn y Dywysogaeth, os nad yr hynaf oll. Cafodd ei ddwyn i fyny yn swn yr efengyl ymhlith yr Ymneillduwyr yn Llanuwchlyn. Nid oed: yr hen bererin hwn yn gallu pregethu flynyddau cyn ei farwolaeth, o herwydd ei wendid corfforol; ond yr oedd yn dyfod i foddion gras hyd o fewn ychydig fisoedd i'w farwolaeth. Yr oedd efe yn berchen doniau rhwydd, ac yn dduwinydd da, ac arferai bregethu yn rheolaidd o ran materion, ac yn ddeffrous o ran dull. Yr oedd o dymer fywiog a siriol iawn, yr hyn a'i harweiniai rai gweithiau i brofedigaethau ar ryw dymhorau yn ei oes; ond byddai pawb a'i hadwaenai yn ei ystyried yn Israeliad yn wir, yn yr hwn nad oedd dwyll. Claddwyd ef yn nghladdfa y Trefnyddion Calfinaidd, tu cefn i'r capel, yn Nolgellau. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parchedigion Richard Roberts, a William Davies, Llanelltyd.(Geir. Byw. Aberdar).


FOULK, Parch. EVAN, Llanuwchlyn, pregethwr gyda'r Trefnyddion Calfinaidd. Er iddo gael ei fagu gan mwyaf ymhlith yr Annibynwyr,' efe a ymunodd â'r Trefnyddion. Y mae enw