Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/68

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Evan Foulk yn adnabyddus iawn yn y Gogledd a'r De, fel Cristion cywir a diddichell; pregethwr gwlithog, a rhyfeddol mewn gweddi. Cafodd lawer o dywydd garw oddiwrth ei wraig yn nechreuad ei grefydd, gan ei bod hi yn wrthwynebol iawn iddo ymwneyd dim â chrefydd. Yr oedd yn dra chwerw wrtho pan oedd gyda'r Annibynwyr, ond yn llawer mwy felly wedi iddo ymuno â'r Trefnyddion. Ond yn raddol daeth yn well arno yn hyn o beth, oblegid i'w wraig, yn ol pob tebyg, gael ei hargyhoeddi mewn Cymdeithasfa yn y Bala.—(Geir. Byw. Aberdar).

FOULKES, Parch. THOMAS, pregethwr gyda'r Trefnyddion Calfinaidd yn y Bala a Machynlleth. Ganwyd ef yn 1731, yn Llandrillo yn Edeyrnion, Sir Feirionydd. Pan oedd yn 23 oed, cymerodd daith i Loegr, a bu yn ymdaith am ryw gymaint o amser yn ardal Caerlleon. Dychwelwyd ef at Dduw trwy weinidogaeth у Parch. John Wesley, tua'r fiwyddyn 1754, neu 1755. Ar ol bod am rhyw dymor yn Lloegr, dychwelodd i Gymru, yn well dyn nag yr ymadawodd. Ar ei ddychweliad adref, arweiniwyd ef i aros yn y Bala, lle yr ymunodd â'r Trefnyddion Calfinaidd. Nis gwyddis pa bryd y dechreuodd bregethu. Yn fuan wedi ymsefydlu yn y Bala, priododd ferch i un o'r ychydig ddisgyblion oedd yno, sef merch i bregethwr bychan o'r enw Gruffydd Siôn. Ni bu y wraig hon byw ond ychydig flynyddau, ac efe a briododd eilwaith â gwraig weddw, o'r enw Mis. Jane Jones, ag oedd ar y pryd yn cadw maelfa yn yr un dref, a merch fach gyda hi, yr hon, wedi hyny, a briodwyd gan y Parch. T. Charles. O'r briodas hon, bu i Mr. Foulkes wyth o blant; ac er ei fod yn diarhebol o hael, eto llwyddodd i roddi dygiad i fyny da i'w blant, ac ymhen ysbaid o flynyddau, galluogwyd ef i roddi'r fasnach i fyny i Mr. Charles a'i briod, ac ymneillduo ar yr hyn a gynilwyd i fwynhau cynyrch ei lafur. Yn ystod ei neillduaeth, ymroddai â'i holl egni i fod o wasanaeth i grefydd. Nid oedd ei alluoedd pregethwrol, mewn cyferbyniad i'r eiddo Charles, John Evans, ac eraill o'i gymydogion, ond bychain, ond mewn ffyddlondeb a chariad at y gwaith nid oedd efe yn fyr i'r un o honynt. Bu ei ail wraig farw yn 1785, ac ymhen tua dwy flynedd priododd Lydia, merch i Simon Llwyd, Ysw., Plas yn Dref, awdwr Amseryddiaeth Ysgrythyrol. Yna, penderfynodd symud o'r Bala i Fachynlleth, lle y cododd faelfa helaeth. Edmygai John a