Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/69

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Charles Wesley yn fawr trwy ei oes. Er hyny, yr oedd ei ymlyniad wrth yr enwad a fabwysiadodd yn gryf iawn. Gwasanaethodd ef yn ffyddlawn, gweddiodd lawer am ei llwyddiant, a c. Bu farw Mai 15, 1802, yn 71 oed.

GRFFITH, Parch. JOHN, gweinidog yr Annibynwyr yn Rhydywernen, ger y Bala. Ganwyd ef mewn amaethdy a elwir Cablyd, yn Rhydywernen, Tachwedd 1805. Derbyniwyd ef yn aelod o'r eglwys yn Rhydywernen, pan oedd yn 17 mlwydd oed. Dechreuodd bregethu yn ol cyngor yr egwys a'r gweinidog, pan oedd yn 27 mlwydd oed. Derbyniodd ei addysgiaeth i'r weinidogaeth yn Llanuwchlyn, dan arolygiaeth y Parch. Michael Jones, ac wedi hyny yn Marton, ar gyffiniau sir Amwythig, dan addysgiaeth y diweddar Barch. T. Jones, o'r lle hwn. Urddwyd ef yn Rhydywernen, yn Mehefin, 1841. Yr oedd yn hynod o ddiwyd, ffyddlawn, a llafurus fel gweinidog yr efengyl. Bu farw yn 44 mlwydd oed, ac yn yr wythfed flwyddyn o'i weinidogaeth. —(Geir. Byw., Aberdâr.)

HUW, ROLANT, o'r Graienyn, ger y Bala. Yr oedd yn fardd da a chelfyddgar, ac yn ei fri tua chanol y ganrif ddiweddaf. Y mae yn y Blodeugerdd farwnad o'i waith i Rhys Morris, oed 88, a gladdwyd yn Llanycil yn y flwyddyn 1757."Yn y Traethodydd am 1849 ceir amryw fân chwedlau am dano, ac englynion o'i waith, sef englyn i ofyn benthyg march gan un Rolant Dafydd, clochydd Trawsfynydd, ac ymgom ddychymygol a gymerodd le rhyngddo â'r march echwyn ar ei ffordd adref.

HUGIES, Parch. ROWLAND, gweinidog enwog gyda'r Wesleyaid, a anwyd yn y Bala, Mawrth 6, 1811. Pan oedd tua 4 oed symudodd William ac Ann Hughes, ei rieni, i Ddolgellau. Yno yr addysgwyd ef; yno y daeth at grefydd, ac yno y dechreuodd bregethu. Pan yn 16 oed ymunodd fel aelod â'r Wesleyaid, a phan yn 17 dechreuodd bregethu. Yn 1829, aeth i Ferthyr Tydfil yn bregethwr cynorthwyol. Yn Awst 1832 galwyd ef allan i waith rheolaidd y weinidogaeth. Bu yn teithio wedi hyny am 29 o flynyddau. Ei gylchdeithiau oeddynt Caernarfon, Beaumaris, Liverpool, Llanasa, Liverpool, Bangor Merthyr, Crughywel, Manchester, Liverpool, a Dinbych-lle y gorphenodd ei daith, yr hon a fu yn llawn o lafur caled, defnyddioldeb mawr, ac o enwogrwydd a dylanwad tu hwnt i'r cyffredin. Pan yn