Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/70

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Liverpool y waith gyntaf ymbriododd âg Elizabeth Evans, merch hynaf y Parch. David Evans, gweinidog parchus gyda'r Wesleyaid Cymreig, yr hon a adawodd yn weddw gyda phump o blant Dywed ei fywgraffydd yn y Gwyddoniadur fod gan Mr. Hughes feddwl galluog iawn; fod dwy elfen neillduol yn ymgyfarfod ynddo, a'r rhai hyny yn gryfion a chyfartal iawn, sef yr un resymiadol a'r un ddychymygol. "Dichon mai y resymiadol oedd y benaf." Yr oedd Mr. Hughes yn bregethwr galluog a sylweddol iawn, a diameu ei fod yn un o'r pregethwyr enwocaf a feddai y corff yn ei oes ef. Gellir dyweyd ei fod yn feistr ar yr iaith Saesneg, ac y gwyddai dipyn am y Groeg a'r Hebraeg. Bu hefyd yn wasanaethgar fel llenor. Cyhoeddwyd y "Cyfnodau y Gynhadledd, a elwir y Cyfnodau Mawr" o'i waith; cyfieithodd hefyd "Nodiadau y Parch. J. Wesley ar y Testament Newydd." Dywedir ei fod yn awdwr amryw lyfrau eraill, a llawer o erthyglau sydd i'w gweled yn nghylchgronau yr enwad. Bu farw yn Dinbych Rhagfyr 25, 1861, yn 50 oed.—(Gwyddoniadur Cymreig, cyf. v., t.d. 547; Geir. Byw., Liverpool, t.d. 523.)

HUGHES, Parch. THOMAS, oedd weinidog gyda'r Trefnyddion Calfinaidd yn Liverpool Ganwyd ef yn y Bala, yn y flwyddyn 1758. Cafodd radd o fanteision dysg mewn elfenau darllen, ysgrifenu, a rhifo, a dygwyd ef i fyny yn saer coed. Yn 1782, pan oedd yn 24 oed, derbyniodd argyhoeddiad dwfn; ond wrth wrando ar y Parch. Daniel Rowlands yn pregethu ar Ioan iii. 16, teimlodd ryddid yr efengyl, a bwriodd ei goelbreu gyda'r Trefnyddion Calfinaidd. Yn 1787 aeth i Liverpool i fyw, ac i wella ei hun yn ei gelfyddyd. Yn 1789 dechreuodd bregethu. Yn 1816 ordeiniwyd i gyflawn waith y weinidogaeth. Yn 1826 daeth y Parch R. Williams yn gynorthwy iddo. Priododd ferch y diweddar Barch. T. Hughes, a chydlafuriodd âg ef am ysbaid byr. Yr oedd Mr. Hughes yn feddianol ar wybodaeth dduwinyddol helaeth, a ragorai o ran treiddgarwch ei olygiadau, gwastadrwydd ei dymer, a chadernid ei benderfyniad. Llafuriai lawer mewn ffordd o adeiladu yr eglwys, a gwerthfawrogai yr eglwys ei weinidogaeth yn fwy na'r gwrandawyr yn gyffredin. Yr oedd o ysbryd cyfeillgar, rhydd; yr oedd yn awyddus iawn i dori allan i leoedd anial a newydd i bregethu. Nid ydym yn hysbys o'r pryd y bu efe farw.—(Geir. Byw., Aberdâr.)