Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/71

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

HOWELL, Parch. L. D., America, oedd weinidog gyda'r Annibynwyr yn Middle Granville, America. Brodor ydoedd o Lanuwchlyn. Mabwysiadodd grefydd yn bur ieuanc. Yn 1832 aeth gyda'i fam, ac eraill o'r teulu, i America, ac ymsefydlodd yn Utica. Yn 1836 priododd un o'r enw Miss Lydia John. Yn fuan cafodd anogaeth i ddechreu pregethu. Cafodd gynyg mewn amryw fanau ar fod yn weinidog sefydlog pan oedd ar ymweliad yn y Gorllewin; ond ar y cyfryw amser nis gallai symud o Utica heb gwbl ddyrysu ei amgylchiadau. Ar y cyfryw amser daeth ef ag eglwys Middle Granville i adnabyddiaeth â'u gilydd, a chymerodd ei gofal. Yr oedd yn troi mewn cylch helaeth iawn fel trysorydd amrywiol gymdeithasau, ac yr oedd yn gwneyd mwy o lafur didal na neb yn y ddinas; yr oedd yn was i bawb mewn angen cymorth a chyfarwyddyd yn mysg ei genedl o'r dref a'r wlad, fel nad oedd dim gorphwysdra iddo, na dim pen draw ar ei drafferth. Ar y 13eg o Orphenaf, 1864, bu farw o'r darfodedigaeth yn nghanol ei ddefnyddioldeb.—(Geir. Byw., Aberdâr.)

JONES, Parch. DAVID, gweinidog poblogaidd gyda'r Annibynwyr yn Nhreffynon, Sir Fflint. Ganwyd ef yn Nghoed-y-ddol, plwyf Llanuwchlyn, yn Nghantref Penllyn. Yn 1790 ymunodd â'r eglwys Annibynol yn y Bala. Bu mewn tywydd garw gyda mater ei enaid am tua phedair blynedd A phan ddaeth i afael cilfach a glan iddi, cyfododd awydd cryf ynddo i berswadio ac i arwain eraill i'r un fan. Daeth hyn yn hysbys i'r eglwys a'r Dr. Lewis, Llanuwchlyn, a chymhellasant ef i ddechreu pregethu. Yn y Bala, ar y 9fed o Chwefror, 1796, y pregethodd y waith gyntaf. Yn 1797 aeth i athrofa Gwrecsam, yr hon oedd dan olygiaeth y Parch. Jenkin Lewis. Yn Mai 1801 derbyniodd alwad oddiwrth eglwys Annibynol Treffynon, Sir Fflint. Gwasanaethodd ei genhedlaeth yn hynod o ffyddlawn gyda phob peth yr ymaflodd ynddo. Bu yn foddion i godi amryw gapelau, sef Bagillt, 1903; Rhesycae, 1804; Heol Mostyn, 1826; a Phen—ypyllau, 1829. Bu yn ysgrifenydd i'r Gymdeithas Fiblaidd yn Sir Fflint am 18 mlynedd, i gangen Gwynedd o Gymdeithas Genhadol Caerludd am 9 mlynedd, ac i Undeb Cynulleidfaol Siroedd Fflint a Dinbych am 9 mlynedd. Yr oedd ei alluoedd corfforol a meddyliol bob amser ar eu llawn waith, a hwnw yn waith a rhyw amcan daionus yn perthyn iddo. Yr oedd ei bregethau yn syml,