Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/72

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eglur, a llawn o efengyl, ac yn cael eu traddodi gyda theimladau gwresog ac ysbryd cynes iawn. Cyhoeddodd gasgliad o Hymnau at wasanaeth y cysegr ymhlith yr Annibynwyr, a chafodd dderbyniad helaeth. Nid ydym yn gwybod a gyhoeddodd ddim arall, er na fu neb yn fwy diwyd nag ef yn ysgrifenu ar wahanol achosion crefyddol. Bu farw Awst 25, 1831, trwy syrthio trwy lawrddrws (trap—door) yn Liverpool, a chladdwyd ef yn barchus yn Nhreffynon. (Hanes Ymneilldaaeth, gan Morgans, 578.)

JONES, EDWARD, neu "Bardd y Brenin," telynor enwog, a anwyd mewn ffermdy o'r enw Henblas, Llandderfel, yn Nghantref Penllyn, yn 1752. Yr oedd tipyn o'r awen yn ei dad; gallai chwareu amryw offerynau cerdd, a chyfansoddi hefyd. Dysgodd i ddau o'i feibion, Edward a Thomas, chwareu y delyn Gymreig, nab arall i chwareu y spinnet, ac arall y crwth, ac yntau ei hun a chwareuai ar yr organ. Tua 1774 aeth Edward i fyny i Lundain, o dan nawdd amryw fondddigion Cymreig. Ystyrid ef yn delynor campus, o herwydd ei allu i arddangos chwaeth, teimlad, a phwysleisiad priodol gyda'r offeryn. Cafodd gefnogaeth wresog, a bu yn rhoddi gwersi ar y delyn i liaws o foneddigesau uchelradd. Penodwyd ef yn delynor i Dywysog Cymru yn 1783, ond nid oedd y swydd hono ond un fygedol a di—dál. Yn 1784 cyhoeddodd ei lyfr tra gwerthfawr hwnw, "Musical and Poetical Relics of the Welsh Bards," yr hwn a ail argraffwyd, gydag ychwanegiad, 1794 Cyhoeddoedd hefyd lytr arall o'r un natur yn 1802, o dan titl, "Bardic Museum of Primitive British Literature." Y mae y rhai hyn yn llyfrau gwir werthfawr a dyddorol, ac yn cynwys sylwadau ar yr hen alawon Cymreig. Yn 1820 cyhoeddodd ran o gyfrol arall, eithr lluddiwyd ef i'w orphen gan afiechyd. Bu hefyd yn dra diwyd yn casglu hen lyfrau prinion, ac yr oedd ganddo ystorfa helaeth o'r cyfryw; ond gan ddyfod o hono yn analluog i ddilyn ei broffeswriaeth, a'i fod yn meddu ysbryd rhy annibynoli hysbysu ei gyfeillion o'i gyfyngder, efe a'u gwerthodd hwynt, a rhan fawr o'i lyfrgell, er mwyn cael arian at fyw. O'r diwedd daeth ei galedi yn hysbys i lywodraethwyr Cymdeithas Freninol y Cerddorion, y rhai yn ddioed a roddasant iddo swm o 50p. yn y flwyddyn, yn ddiarwybod iddo ei hun hyd oni dderbyniodd yr arian. Pa fodd bynag, ni chafodd ond byr amser i'w mwynhau, a bu farw yn Marylebone, Ebrill 18, 1824, yn 72 oed.