Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/73

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gwerthwyd, yn Chwefror 1825, ei lyfrau am 800p. Y mae y llyfrau a gyhoeddodd yn dystiolaeth i'w allu a'i athrylith.(Wms. Em. Welsh.)

JONES, Parch. JOHN, (Ioan Tegid) offeiriad, bardd swynol, a llenor gwiwglod, a anwyd Chwefror 10, 1792, yn y Bala, ar fin Llyn Tegid, oddiwrth yr hwn y cymerodd ei enw barddonol Ioan Tegid. Cafodd addysg dda yn ieuanc mewn rhifyddiaeth' &c. Yn 1812 aeth i Gaerfyrddin, i ysgol y Parch. D. Peter, i efrydu Groeg a Lladin. Yn 1813 aeth i ysgol y Parch. D. Price, yn yr un dref, lle y bu 18 mis. Yn 1814 aeth i goleg Iesu Rhydychain, pryd yr oedd D. Hughes, D.D., o Lanrwst, yn llywydd y coleg. Yn 1818 cafodd y radd o B.A., ac yn 1819 cafodd gaplaniaeth Eglwys Crist, Rhydychain, pryd yr urddwyd ef yn ddiacon ae offeiriad. Yn 1823 cafodd y swydd o brif gantor yn Eglwys Crist, pryd hefyd y cafodd guradaeth barhaus St. Thomas, yn yr un ddinas, lle y bu yn gweinidogaethu am 18 mlynedd gyda llwyddiant mawr. Yn Awst, 1841, penodwyd ef i ficeriaeth Nanhyfer, yn swydd Benfro; ac yn 1848 dyrchafodd esgob Ty, ddewi—Dr. Thirlwall—ef yn brepender yn ei brif eglwys. Ei athrawon barddodol oeddynt Robert Williams, neu Robert ab Gwilym, o'r Pandy, Trerhiwedog, Bardd Nantglyn, a Gwallter Mechain, &c. Yr oedd Tegid yn fardd o waed; yr oedd Rolant Huw, Rhys Jones, a Chaerfallwch, yn berthynasau agos iddo. Yr oedd yn llenor twymgalon, ac yn bleidiol iawn i'r Eisteddfod, &c., tra y bu byw. "Ystyrid ef yn oracl ar ddyrys bynciau y gynghanedd, ond ychydig o ergydion awen rywiog ac ehedlym a welir yn ei waith yn y mesurau hyny, tra y mae ei ganeuon byrion yn felus odiaeth, yn enwedig Ymweliad y bardd' a'r 'Ferch o'r Ddol.' Bydd y flaenaf yn fyw tra yr acenir y Gymraeg." Dywedir ei fod yn feirniad manylgraff a choeth, ac iddo lenwi y swydd yn anrhydeddus bob amser. Ceisiwn roddi crynodeb o'i lafur awdwrol:—1, "Traethawd ar gadwedigaeth yr Iaith Gymraeg,"1820; 2, "Traethawd ar iawn lythreniad yr Iaith Gym.raeg," 1830; 3, "A defence of the Reformed System of Welsh Orthography," 1829; 4, "A reply to the Rev. W. B. Knight's Remarks on Welsh Orthography," 1831; 5, "The book of the prophet Isaiah: translated form the Hebrew Text of Vander Hooght," 1880. Cyfieithiod 1 Esaiah hefyd i'r iaith Gymraeg, ond