Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/74

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y mae y gwaith hwnw yn aros hyd yn hyn mewn llawysgrifen. 6, "Cyfieithiad o adroddiadau dirprwyaduron ymholiad i gyflwr addysgiad yn Nghymru," 1848; 7, "Gwaith Barddonawl Tegid," 1859; 8, "Golygu gwaith Lewis Glyn Cothi," 1839; 9, "Golygu argraffiad o'r Testament Cymraeg," Rhydychain, 1828., Y mae Iliaws o erthyglau hefyd o'i eiddo yn yr Haul a Seren Gomer. &c. Bu farw yn Mhersondy Nanhyfer, Mai 2, 1852, yn 61 oed, Pan glybu Dr. Thirlwall, esgob Tyddewi, am ei farwolaeth dywedai, "I cannot sufficiently express the concern I feel, whether I consider the qualities of his heart or of his head, his private worth, his usefulness in the Church, or his literary undertakings." —(Ei fywgraffiad yn Ngwaith Barddonawl Tegid; Geir. Byw., Liverpool; Geir. Byw., Aberdâr; Y Gwyddioniadur.)

JONES, Parch. LEWIS, gweinidog gyda'r Methodistiad Calfinaidd yn y Bala. Ganwyd ef yn Melin Cae'r Berllan, Llanfihangel-y-Penant, yn Nghantref Meirionydd, yn 1807. Cafodd ychydig ysgol gyda Lewis Williams, Llanfachreth. Daeth i'r Bala fel llyfr—rwymydd, ac yno y dechreuodd bregethu; a bu am ysbaid wedi hyny yn ysgol Gwrecsam, dan addysg Mr. John Hughes (wedi hyny o Liverpool). Neillduwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth yn Nghymdeithasfa y Bala yn 1838. Yr oedd yn ŵr o feddwl craff ac yn ysgrifenydd medrus. Er nad oedd yn hòni ei hun yn fardd, cyfansoddodd rai caniadau gwerth eu cadw. Cyhoeddwyd rhai o'i bregethau yn llyfrynau bychain, ac yn rhai o gyfrolau y Pregethwr. Ysgrifenodd amryw erthyglau rhagorol i'r Traethodydd, megis yr "Adolygiad ar Athroniaeth Trefn Ischawdwriaeth;" a chyfoethogwyd dalenau y Geiniogwerth a'r Methodist â chynyrchion ei ddoniau destlus, ac efe oedd prif, os nad unig olygydd y cyhoeddiad blaenaf. Efe oedd awdwr "Cofiant y Parch. Richard Jones o'r Bala," a chyfieithydd "Oriau olaf Iesu Grist," a gadawodd lawer o bregethau, &c., ar ol mewn llawysgrifen. Bu farw yn 1854.—(Geir. Byw. Lerpwl; Geir. Byw. Aberdar, a'r Gwyddionadur.)

JONES, LEWIS, bardd o Lanuwchlyn, yn Nghantref Penllyn. Trigai yn y Pandy, o fewn y plwyf hwnw, yn 1703. Y mae dwy gân o'i waith yn y Blodeugerdd, sef "Ymddiddan rhwng y cybydd a'r trugarog," a "Cyngor i'r Gofo Rhosygwaliau i beidio a meddwi."—(G. Lleyn.)