Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/76

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

addysgwyd R. Jones ar y cyntaf, a thrwy hyn a'r ychydig addysg Seisnig a gafodd yn Ysgol Genedlaethol Maentwrog, galluogwyd ef wedi tyfu i fynu i gymeryd gofal un o ysgolion Mr. Charles ei hun, yn Trerhiwaedog, ac yn y Parc, ger y Bala; ac yn Trawsfynydd. Yn 1815, dechreuodd bregethu, a thraddododd ei bregeth gyntaf yn nghapel Cwmprysor, Trawsfynydd. Neillduwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth yn Nghymdeithasfa y Bala, yn 1825. Yr oedd yn ddyn o synwyr, deall, a dawn naturiol, tu hwnt i'r cyffredin. Yr oedd ei arabedd yn ddiarebol. Cyhoeddwyd Hanes ei Fywyd, yr hwn a ysgrifenasid ganddo ef ei hun, gyda sylwadau ychwanegol arno, a sylwedd tair o'i bregethau, gan y Parch. Lewis Jones, Bala, yn 1841. Bu farw yn y Bala, Ebrill 17, 1840, yn 55 oed.—(Ei Gofiant.)

JONES, Parch. RICHARD, Gweinidog gyda'r Annibynwyr yn Rhuthyn. Ganwyd ef yn y Bala, Hydref 26. 1813; ei rieni John a Jane Jones, oeddynt yn trigo yn y Bala ar y pryd, ond a symudasant i'r Wyddgrug wedi hyny. Pan yn bur ieuanc, ymunodd a'r eglwys Annibynol yn y Bala, yr hon oedd tan ofal y Parch. Michael Jones. Dywedir ei fod yn ddarllenwr mawr er yn ieuanc. Yn 1830, pan yn 17 oed, bu yn offeryn i sefydlu "Cymdeithas Araethyddol yr Ieuenctyd ar faterion Crefyddol," ymha un y daeth ei ragoriaethau ef a phump eraill i'r golwg, a chodwyd hwy i'r pwlpud. Ymhen ysbaid wedi iddo ddechreu pregethu, aeth i goleg y Drefnewydd, lle y bu am ddwy flynedd, pryd y derbyniodd alwad oddiwrth Eglwys Aberhosan, ger Machynlleth, lle yr urddwyd ef Ebrill 4, 1837. Dywedir ei fod yn bregethwr ieuanc hynod o boblogaidd, a bod cynydd mawr wedi bod ar yr achos yn y lle yn yr ysbaid byr y bu 66 yno. Yr oedd ei bregethau bob amser yn wir ddefnyddiol; yn goleuo y deall, yn deffro y gydwybod, yn enill y serch, ac yn gafaelyd yn y galon." Bu farw yn nhŷ ei fam yn y Wyddgrug, Hydref 26, 1841, yn 28 oed. Traddododd y Parch. W. Rees, (Gwilym Hiraethog), ei bregeth angladdol, oddiar,—"Efe oedd ganwyll yn llosgi ac yn goleuo," &c. Ysgrifenodd y Parch. H. Pugh, Mostyn, gofiant iddo, a chyhoeddwyd ef ynghydag ugain o'i bregethau, Dolgellau, 1843. (Ei Gofiant; Geir. Byw. Aberdar; Geir. Byw. Lerpwl.)

JONES, Parch. WILLIAM, Gweinidog yr Annibynwyr yn Mhenybont-ar-ogwy, Morganwg, a anwyd yn y Bala, yn Nghan-