Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/77

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

tref Penllyn, yn 1784. Yr oedd ei rieni yn aelodau gyda'r Trefnyddion Calfinaidd, a chafodd yntau yr addysg grefyddol oreu o'i febyd. Pan tuag 16 oed, digwyddodd fyned i wrando y Dr. Phillips, Neuaddlwyd, yn pregethu yn nghapel yr Annibynwyr yn y Bala, a chafodd y bregeth hono y fath argraff arno fel y penderfynodd nad arosai nemawr hwy oddiallan i'r eglwys, ac y bwriai ei goelbren i blith yr Annibynwyr. Ymhen tua blwyddyn dechreuodd bregethu, a bu am ysbaid yn cadw ysgol yn Mhentre-llyn-y-cymer. Yn 1806, aeth i athrofa Annibynol Gwrecsam, tan yr athraw Dr. Jenkin Lewis, lle y bu hyd 1810. Yn 1810, cafodd alwad gan eglwysi Penybont-ar-ogwy a Brynymenyn, ac urddwyd ef yn y gwanwyn canlynol. Yn 1814, priododd Mary Truberville, o'r hon y cafodd ddeg oblant. Yn 1836, bu Mrs. Jones farw, a phriododd yntau yr ail waith un Mrs. Howells, gweddw barchus a chrefyddol o ardal Maendy. Nid oedd ei lwyddiant gweinidogaethol yn gyfartal o lawer i'w alluoedd pregethwrol, os caniateir mai meddyliau cryfion a threiddgar yn dadlenu cyfrinion Gair Duw mewn dull byfedra meistrolgar, a'r fuchedd yn cael ei harddweddu gan ragoriaethau penaf y grefydd Gristionogol, ydynt brif'anhebgorion y cyfryw swydd. Yr oedd ei bregethau yn wir sylweddol, ac yn ffrwyth efrydiaeth gyson a chaled. Cyhoeddwyd ei "Eiriadur Duwinyddol," mewn dwy gyfrol, yn Merthyr a'r Bontfaen, 1837 —1839.—2. Saith o bregethau ar Ioan iii. 14—21," Abertawe, 1829—3. "Pregeth ar Briodol Dduwdod ein Harglwydd Iesu Grist," Abertawe, 1832—4. " Diaconia, neu swydd Diaconiaid," Llanelli, 1836. Cyfieithodd hefyd "Feibl Teuluaidd" Morrison i'r Gymraeg; a bu yn olygydd y "Drysorfa Gynulleidfaol," cyhyd ag y dygwyd hono allan yn Abertawe. Ysgrifenodd luaws o erthyglau campus i'r Diwygiwr, a chyhoeddiadau eraill y dydd; a darfu i'w olynydd yn Mhenybont, y Parch. J. D. Williams, gyhoeddi cyfrol fechan o'i bregethau, y rhai, fel y gweddill o'i waith, sydd yn arddangos meddwl o radd uchel. Bu farw Mehefin 5, 1847.—(Geir. Byw. Lerpwl.)

JONES, Parch. JOHN, Llangower, yn Nghantref Penllyn; yr hwn wedi hyny a fu yn byw yn Ngwrecsam. Ganwyd ef yn 1797. Daeth at grefydd yn 17 oed; a dechreuodd bregethu pan yn 21 oed. Ond ni ddywedir gyda phwy enwad, gallwn dybied oddiwrth hyd ei gofiant yn Ngeiriadur Bywgraffyddol, Aberdar,