Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/78

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mai gyda'r Trefnyddion Calfinaidd. Dywedir ei fod o ran ei grefydd a'i dduwioldeb cyffredinol, yn ddiargyhoedd, syml, a sobr; ac yn un oedd yn wir ymdrechol a chydag egni gyda phob achos da, ac a fyddai o lesiant cyffredinol; ac am hyny gellid ei restru, er byrcd ei oes, ymhlith enwogion Swydd Feirion. Bu farw yn agos i Bontcysylltau, ger Llangollen, yn Gorphenaf 28, 1826, yn 29 oed.—(Geir. Byw. Aberdar.)

LEWIS, Parch. GEORGE, D.D., gweinidog enwog ymhlith yr Annibynwyr, a duweinydd ac awdwr enwog. Proselyt i Swydd Feirion oedd Dr. Lewis; ond bu yn Llanuwchlyn am ddeunaw mlynedd, fel y daeth i'w adnabod fel Dr. Lewis, Llanuwchlyn; ac fel y cyfryw yr adwaenir ef o hyn allan. Ganwyd ef yn y Coed, ger Caerfyrddin, yn 1763. Unig blentyn oedd i bobl fucheddol a pharchus—William a Rachel Lewis. Yr oedd ei fam yn proffesu yn yr Eglwys Wladol; ac nid oedd ei dad yn proffesu crefydd o gwbl. Felly yn yr hen Fam Eglwys y cychwynodd Dr. Lewis ei yrfa. Aeth i ysgol ar y cyntaf at y Parch. John Pritchard, offeiriad Trelech; wedi hyny at y Parch. Thomas Evans, Llanddowror; ac wedi hyny at y Parch. Owen Davies, gweinidog yr Annibynwyr yn Trelech; ac yn ddiweddaf at y Parch. John Griffiths, Glandwr, Swydd Benfro. Derbyniwyd ef yn gyflawn aelod gyda'r Annibynwyr, tua'r flwyddyn 1779 neu 1780, pan oedd o 16 i 17 oed. Yr oedd Dr. Lewis yn ŵr bucheddol, darllengar, ac yn gwybod yr Ysgrythyr Lân er yn fachgen. Ni bu yn hir wedi ei dderbyn heb ddechreu pregethu, ac er parotoi ei hun i'r Athrofa, aeth i ysgol drachefn at Mr. Davies, i Thalic, wedi hyny o Gastell Howel; ac oddiyno i Athrofa Caerfyrddin. Yn 1784, aeth am daith trwy'r Gogledd, a chafodd alwad oddiwrth yr ychydig frodyr Annibynol oedd yn Nghaernarfon; a chafodd ei urddo yn weinidog yno yn yr un flwyddyn, lle y bu yn llafurus a llwyddianus gyda phregethu ac adeiladu capelau yn Nghaernarfon a'r cymydogaethau, hyd y flwyddyn 1794. Yr oedd efe yn cadw ysgol ddyddiol hefyd yn Nghaernarfon. Pan yn Nghaernarfon, priododd y Dr., Miss Jones, ail ferch T. Jones, Ysw. Bodeiriad, o'r hon y cafodd dri o blant—dau fab ac un ferch. Yn 1794, derbyniodd alwad yr hen eglwys Llanuwchlyn, lle y bu yn llafurus a llwyddianus am 18 mlynedd. Yn Ionawr, 1812, symudodd i Wrecsam i gymeryd gofal yr athrofa, yn lle Dr. Jenkin Lewis, yr hwn oedd wedi der-