Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/79

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

byn galwad i fod yn athraw coleg newydd Manchester. Yr oedd eglwys Annibynol Wrecsam hefyd wedi rhoddi galwad i'r Dr. Lewis i'w bugeilio, Yn 1816, symudwyd yr athrofa o Wrecsam i Lanfyllin, er mwyn iechyd y Dr., yr hwn oedd yn dechreu gwaethygu. Yn raddol gwaethygodd ei iechyd eto yn Llanfyllin, ac yn 1821, symudwyd yr athrofa ac yntau i'r Drefnewydd, Sir Drefaldwyn, lle y preswyliai mab i'r Dr. fel meddyg. Fe welir yn eglur oddiwrth y symudiadau hyn, mor weithfawr oedd Dr. Lewis fel athraw coleg! Ond er pob symudiad, bu farw, Mehefin 5, 1822, yn 59 oed. "Yr oedd efe yn hynod hoff o bobl ac ardal Llanuwchlyn. Yma yr oedd efe wedi magu mwyaf ar ei blant—yma yr oedd efe wedi ei eni ei hun fel awdwr y cyfrolau a geidw ei enw tra byddo byw llenyddiaeth grefyddol gan y genedl yn ei hiaith—yma yr oedd efe wedi treulio y blynyddoedd mwyaf dedwydd o'i oes, ac yma yr oedd efe wedi penderfynu diweddu ei ddyddiau." Rhestr o'i weithiau:—1. "Drych Ysgrythyrol, neu Gorph o Dduwinyddiaeth," 1797; tua'r flwyddyn 1802, dechreuodd ei "Esboniad" rhagorol ar y "Testament Newydd" ddyfod allan, yr hwn a orphenwyd mewn saith cyfrol wythblyg. Yr ydym yn meiddio dywedyd ei fod yn warth ar ein cenedl fod y gweithiau hyn mor ddialwad am danynt; meiddiwn ddywedyd hefyd eu bod yn ein meddiant, ac na welsom eto, ar y cyfan, yn y Gymraeg, na Saesneg, Gorph o Dduwinyddiaeth ac Esboniad yn rhagori arnynt. Bydded i ni werthfawrogi y Doctoriaid Cymreig, pheidio haner addoli Doctoriaid Germanaidd, &c. Cyhoeddodd y Dr. amryw lyfrynau eraill :— Cyfiawnhad Pechadur trwy ffydd;" "Gorfoledd Crist ar ddeheulaw y Tad;" "Dyledswydd pawb i gredu yn Nghrist;" "Henuriaid ymhob Eglwys;" "Galwad gyffredinol yr Efengyl yn gyson âg etholedigaeth Gras;" "Holwyddoreg athrawiaethol ac ymarferol;" "Arweinydd yr Anwybodus;" "Anerchiad ymadawol i eglwys a chynulleidfa Llanuwchlyn." Dywed Dr. Williams, o Rotherham, yn ei "Christian Preacher," am "Gorph Duwinyddiaeth" Dr. Lewis fel y canlyn:—"Lewis's Drych Ysgrythyrol, may be here noticed as a valuable body of divinity, and the only one of the kind composed in the British language, and is well calculated to promote the knowledge of undefiled religion." Fel y canlyn hefyd y dywed Dr. Edwards, o'r Bala, am dano, yn ei "Draethawd ar Hanes Duwinyddiaeth" yr hwn