Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/80

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

sydd ynglyn a'r argraffiad diweddaf o "Gorph Duwinyddiaeth" Dr. Lewis:—" Ond, feallai, y byddai yn anhawdd cael gwell cynllun heb un drychfeddwl llywodraethol, na'r un a ddilynwyd gan Dr. Lewis," &c.; hyn a ddywed am ei gynllun. Dywed hefyd yn mhellach wrth sylwi ar "Effaith y Diwygiad Methodistaidd ar dduwinyddiaeth yn Nghymru":— "Y mae yn amlwg fod Dr. Lewis yn ddyn o feddwl cryf, ei fod wedi darllen llawer ar weithiau y Puritaniaid, ei fod yn deall yr hyn oedd yn ei ddarllen. Y mae wedi ffurfio ei dduwinyddiaeth ar gynllun yr awdwyr goreu, ac wedi ymgadw yn well na llawer yn yr oes o'i flaen oddiwrth bob golygiadau eithafol," &c. Yr ydym yn ystyried fod y tystiolaethau uchod oddiwrth y ddau ddyn mawr yma, yn fwy o deyrnged i Dr. Lewis na phe yr ysgrifenem ni gyfrol o'i hanes!!

LLOYD, EDWARD, A.C. Bu yn gweinidogaethu yn Llangower, yr hwn le sydd ar lan Llyn Tegid, ger y Bala, ddeugain mlynedd, o'r hwn le y cafodd ei ddeoli yn amser Cromwel, a bu y lle yn wag am hir amser, a bu farw yntau yn 1685. Ei fab ef oedd yr Esgob W. Lloyd, yr hwn y gwelir ei hanes yn fyr yn y traethawd hwn:—Walker's Sufferings of the Clergy, tudal 248. Cyfieithodd y Parch. Edward Lloyd ddau o lyfrau o waith Dr. Simon Patrick, esgob Ely:—1. "Egwyddor i rai ieuainc i'w cymhwyso i dderbyn y cymun sanctaidd yn fuddiol," Llundain, 1682, 12 plyg. 2." Męddyginiaeth a chysur i'r dyn helbulus, clafychus, a thrallodus ar ei glaf wely, a gasglwyd allan o'r ysgrythyrau sanctaidd, ac hefyd o ystoriau ac athrawiaethau yr hen dadau, a rhesymau y philosophyddion a gwŷr doethion a dysgedig eraill o'r cynfyd, ac a osodwyd allan trwy lafur Edward Lloyd, A.C., a gweinidog yr efengyl yn Llangower, yn Sir Feirion, er lleshad i'w braidd y mae yn fugail arnynt, ac yn oruchwyliwr i gyfranu iddynt .eu bwyd yn ei bryd, sef yw hyny, 'didwyll laeth y gair,' 1 Pedr ii. 2; ac ar ol hyny, er budd i'r Cymry oll," Amwythig, 1722.

LLOYD, Parch. EVAN, bardd Seisnig o radd uchel, a hanai o deulu hybarch y Brynhir, Trawsfynydd. Ail fab ydoedd i John Lloyd, Ysw., o Frondderw, ger y Bala, lle y ganwyd ef yn 1734. Cafodd ei addysg yn y Trinity Hall, Caergrawnt, o dan ofal y Parch. Thomas Hughes, LL.B. Dangosodd yn gynar fod ganddo feddwl galluog, a cheid prawf yn nghynyrchion cynaraf ei athrylith