Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/81

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fod gwawd a duchan yn gyneddf gref ynddo. Wedi gadael Caergrawnt, aeth i Goleg yr Iesu, Rhydychain, lle yr etholwyd ef yn ysgolor yn 1755, ac y cymerodd y radd o M.A. Bu am beth amser yn gwasanaethu eglwys yn Llundain, ac ar ol hyny rhoddwyd iddo ficeriaeth Llanfair-Dyffryn-Clwyd, Sir Ddinbych. Cyhoeddwyd y pryddestau canlynol o'i waith:—1, "The Powers of the Pen; yr hon a gyhoeddwyd yn 1765, ac a adgyhoeddwyd yn 1768; 2, "The Curate; " 3. "The Methodist," y ddwy hyn yn 1766; 4, "The Conversation," 1767; 5, "Epistle to David Garrick." Yr oedd yn cydoesi â Churchill, Garrick, Wilkes, Colman, ac ar delerau tra chyfeillgar â hwynt, ac â phrif lenorion eraill ei oes. Bu farw Ionawr, 1776, yn 42 oed, a chladdwyd ef yn meddrod y teulu, yn Eglwys Llanycil, lle y mae gwyddfa o farmor gwyn i'w goffadwriaeth, a llinellau Seisnig o waith ei gyfaill Wilkes yn gerfiedig .arno.

LLOYD, Parch. WILLIAM, D.D., ydoedd fab i'r Parch. Edward Llwyd. Yr oedd yn beriglor Llangower, rhwng 1645 a 1685. Addysgwyd ef yn Ngholeg St. Ioan, Caergrawnt, ac ar ol ei urddo cafodd amryw ddyrchafiadau eglwysig, a'i benodi yn gaplan i Siarl II. Yn Ebrill, 1676, cysegrwyd ef yn esgob Llandaf; a dyrchafwyd ef oddiyno i Peterborough yn Mawrth, 1679; ac oddiyno i Norwich yn Mehefin, 1685. Bwriwyd ef allan o'r esgobaeth hon yn 1691, am wrthod cymeryd llw o ffyddlondeb i William a Mary, ac ymneillduodd i Hammersmith, ger Llundain, lle y bu yn trigianu am ugain mlynedd. Bu farw yn 1710, ac yn ol ei ddymuniad claddwyd ef yn nghlochdy eglwys y lle hwnw.

LLOYD, Parch. SIMON, B.A., o'r Bala, oedd yn hanu o deulu hynafol a pharchus yn Meirion, ac a anwyd yn 1756. Derbyniodd ei addysg athrofaol yn Ngholeg yr Iesu, Rhydychain, lle y graddiwyd ef yn B.A.; ac wedi ei urddo bu yn llanw swydd curad mewn amryw fanau yn Ngogledd Cymru. Yr oedd yn gyfaill calonog i Mr. Charles o'r Bala, a diau ei fod yn cydsynio âg ef ar bynciau eglwysig o'r dechreuad. Bu am beth amser yn gurad Bryneglwys-yn-Ial, Sir Ddinbych; a dywed Methodistiaeth Cymru mai tra yn y lle hwnw y dygwyd cwyn ger bron yr esgob ei fod yn gogwydd at Fethodistiaeth, ac yr ataliwyd ef rhag pregethu. Tra y dywed yr Em. Welshmen, fod Syr Watkin W. Wynn wedi ei benodi i guradiaeth barhaol Llanuwchlyn, ac i'r esgob