Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/82

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Horsley omedd cadarnhau y penodiad, trwy yr hyn y gorfodwyd ef i roddi y lle i fyny. Gan ei fod yn berchen cyfoeth ni chynygiodd am un apwyntiad arall, ond ymunodd â'r Trefnyddion Calfinaidd, a daeth yn bregethwr yn eu plith. Y pryd hwnw nid oedd yr enwad Methodistaidd wedi dechreu ordeinio gweinidogion o'u plith eu hunain, ac yr oedd Mr. Lloyd, pe ond o ran hyny yn unig, yn aelod tra gwerthfawr i'r Cyfundeb. Nid oes lle i gasglu ei fod yn bregethwr poblogaidd, ond yr oedd yn ysgolhaig da, a gwnaeth ddefnydd rhagorol o'i fanteision. Bu farw yn y Bala, Tachwedd 6, 1836, a chladdwyd ef yn meddrod y teulu, yn Eglwys Llanycil. Cyhoeddwyd ei lyfr rhagorol, Amseryddiaeth Ysgrythyrol yn 1816, yr hwn ydoedd yn ffrwyth ei efrydiaeth ddyfal am 30 mlynedd; a daeth ail argraffiad allan o hono, ac y mae trydydd argraffiad o hono yn dyfod allan yn awr gyda rhyw ychwanegiad gan Dr. Edwards, Bala. Ysgrifenodd hefyd Esboniad ar Lyfr y Datguddiad, yr hwn a gyhoeddwyd yn 1828, ac a ail argraffwyd wedi hyny. Bu hefyd ar ol marwolaeth Mr. Charles yn golygu y Drysorfa am ddwy flynedd.—(Geir. Byw. Lerpwl, Geir. Byw'. Aberdar.)

LLYWARCH HEN, yr enwocaf o'r cynfeirdd. Dywed Cynddelw yn Gorchestion Beirdd Cymru:—Llywarch Hen, gan belled ag y gallaf fi farnu, yw y mwyaf ei athrylith o'r cynfeirdd o ddigon. Ymha le bynag y ganed ac y maged Llywarch Hen, ymddengys, o'r hyn lleiaf, ei fod o waed Meirionaidd; oblegid fe ddywedir fod perthynasau iddo yn byw tua Llanfor, ger y Bala, gan fod Mor, sant gwarcheidiol y lle hwnw, yn frawd i'w hen daid, Gwrwst Ledlwm. Yno y gorphenodd ei oes faith, tua'r flwyddyn 646, yn 150 oed; ac yn Llanfor y claddwyd ef'; a dywedai Dr. Davies, o Fallwyd, fod careg yn y mur yn dynodi ei · orweddle. Y mae y man y trigai yn cael ei ddangos eto, tan yr enw "Pabell Llywarch Hen." Hefyd y mae ei enw yn "Achau teulu Rhiwaedog, a Phlas-yn-dref, Bala," gan G. Lleyn, lle y dywed yr hynaflaethydd gwych hwnw :—"Rhiwaedog, yn hytrach Rhiwwaedog, sydd yn mhlwyf Llandderfel, ger y Bala, yn Sir Feiriónydd. Gelwir y lle felly oddiwrth ymladdfa waedlyd a gymerodd le yno rhwng Llywarch Hen a'r Sacsoniaid, yn yr hon y collodd Cynddelw, yr olaf o'i feibion." Yr oedd Llywarch Hen yn enwog fel milwr yn gystal ag fel bardd. Elidir Lydanyn oedd ei dad, a