Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/83

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gwawr, ferch Brychan Brycheiniog, sant enwocaf yr oes, oedd ei fam. Yr oedd Urien Rheged yn gefnder iddo o du tad a mam, canys yr oedd Elidir a Chynfarch wedi priodi dwy o ferched Brychan, sef Gwawr a Nefyn. Tywysog ar y Brythoniaid Gogleddol, a breswylient Is-coed Celyddon, oedd ei dad; a rhan trefdadol Llywarch oedd Argoed, yn Sir Cumberland. Bu Llywarch Hen am ryw ysbaid yn llys Arthur; gelwir ef yn y Trioedd yn "Un o dri chynghoriaid farchawg llys Arthur," ac yn "Un o dri thrwyddedog llys Arthur." Yr oedd iddo 24 o feibion, a phob un yn amdorchog; ond goroesodd hwynt oll, a syrthiasant yn ebyrth ar allor waedlyd yr oes ryfelgar hono. Cwympodd tri yn mrwydr Catraeth, a dynoda yr hen fardd yn hynod o alarus y man y syrthiodd y gweddill. Cyhoeddwyd 12 o'i gyfansoddiadau yn Myv. Arch., ac yn 1792, cyhoeddwyd hwynt ar wahan, ynghyd a chyfieithiad i'r Saesneg gan, Dr. W. O. Pughe. mae "Englynion Eiry Mynydd" o'i waith yn Gorchestion Beirdd Cymru, t.d., 35. Hefyd y mae pump o "Englynion Diarebol," o'i waith yn Golud yr Oes, cyf. I., 356.

"Gnawd gwynt o'r deheu, gnawd adneu—yn llan ;
Gnawd gwr gwan gordeneu,
Gwan i ddyn ofyn chwedleu."

"Gnawd gwynt o'r dwyrain: gnwad dyn bronrain—balch;
Gnawd mwyalch yn mhlith drain;
Gnawd rhag traha tra llefain,
Gnawd yn ngwig gael cig i frain."

"Gnawd gwynt o'r gogledd; gnawd rhianedd—chweg;
Gnawd gwr teg yn Ngwynedd;
Gnawd I deyrn arlwy gwledd;
Gnawd gwedi llyn lledfrydedd."

"Gnawd o'r mor, gnawd dygfor—llanw;
Gnawd i fanw fagu hor;
Gnawd i foch turiaw cylor."

"Gnawd gwynt o'r mynydd; gnawd merydd—yn mro;
Gnawd gael tô yn Ngweunydd:
Gnawd dail, a gwyail, a gwŷdd."


MOSES, Parch. EVAN, Bala, un o hen bregethwyr y Trefnyddion Calfinaidd yn y dref hono. Gôf wrth ei alwedigaeth. Tua'r flwyddyn 1744, dechreuodd bregethu. Yr oedd yn un o ysbryd effro a gweithgar iawn gyda chrefydd. Ei dduwioldeb oedd amlwg, a pharhaodd yn ffyddlawn yn ngwasanaeth ei Arglwydd hyd derfyn ei oes. Yr oedd Evan Moses yn fardd hefyd; fe ddywedir y byddai ei bin, ei inc, a'i bapyr yn ei ymyl bob amser yn yr efail, i ysgrifenu hymnau a gyfansoddai wrth guro ar yr haiarn; neu rywbeth arall a ddeuai i'w feddwl. Trwy fod yr