Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/84

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

erledigaeth yn boeth y pryd hyny, cyhoeddodd yntau y pregethai am bump yn y boreu tra byddai byw. A safodd ef at hyny, ond byddai ei wrandawyr yn hynod anaml yn fynych. Elai o amgylch i alw ei wrandawyr o'u gwelyau, gan ddywedyd, "Codwch, frodyr, at yr Arglwydd, a pheidiwch gwrando ar y cnawd." Yr oedd yn un o'r rhai ffyddlonaf yn ngwaith ei Arglwydd, er cymaint o wrthwynebiadau a gafodd. Ond ni ddiffygiodd nes gorphen ei yrfa, yr hyn a wnaeth gyda llawenydd a chysur mawr.

MOSES, Parch. SION, ydoedd frawd i'r crybwylledig Evan Moses, ac yn bregethwr gyda'r Trefnyddion Calfinaidd yn y Bala. Yr oedd o ymadrodd llithrig a chymeradwy, a pharhaodd i lafurio dros amryw flynyddau. Yn y rhan olaf o'i ddyddiau, yr oedd arogl peraidd ar ei eiriau a'i ymarweddiad. Dywedir iddo ef ac un arall sefyll yn wrol o blaid Howel Harris, pan ymosodwyd arno yn greulon gan yr erlidwyr, ac ymdrechent ei achub o'u dwylaw. Bernir y buasent wedi ei ladd oni buasai i'r gwŷr hyn osod eu hunain mewn enbydrwydd er achub ei fywyd. Daliwyd ef a'i fam am gadw Howel Harris yn eu tŷ; a daliwyd dau eraill am wrando arno. Rhwymwyd y rhai hyn i ateb y brawdlys canlynol. Gorfu i'w fam dalu ugain swllt am dderbyn pregethu i'w thŷ; Yr oedd a'r tri eraill bum' swllt yr un am wrando arno! Sion Moses wedi dechreu pregethu tua'r un amser a'i frawd. (Y mae llawer o hanesion dyddorol ac adeiladol am yr hen frodyr hyn ac eraill yn Meth. Cym. gan y Parch. John Hughes).

OWEN, Parch. THOMAS, pregethwr gyda'r Trefnyddion Calfinaidd yn y Wyddgrug. Mab ydoedd i Richard Owen, o'r Bala, lle y ganwyd ef yn 1781. Cafodd ei fagu yn grefyddol. Crydd oedd wrth ei alwedigaeth, nes i Mr. Charles wneyd sylw o hono a'i anog i fyned i gadw un o'i ysgolion cylchynol, yr hyn a wnaeth am chwech neu saith mlynedd. Yn 1802, dechreuodd bregethu, a thraddododd ei bregeth gyntaf yn nhŷ hen chwaer o'r enw Sian Llwyd, yn Llanfor. Ymhen rhyw ysbaid wedi dechreu pregethu, symudodd i Dregeiriog; ac yn y lle hwn; priododd Mary, merch Thomas Hughes, amaethwr cyfrifol yn yr ardal hono; o'r hon y cafodd saith o blant. Yn 1807, symudodd i Adwy'r Clawdd, ger Wrecsam, lle y trigianai am 30 o flynyddau. Bu farw ei wraig, ac yn 1822, priododd eilwaith â Margaret, merch John Roberts, garddwr, Bala. Yn 1837, symudodd ef a'i