Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/85

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

deulu o Adwy'r Clawdd i Wernymynydd, ger y Wyddgrug; symudodd o Wernymynydd i dŷ perthynol i gapel y Wyddgrug, lle y trigodd hyd ei farw. Yr oedd yn bregethwr sylweddol ac Ysgrythyrol. Yr oedd yn ddarllenwr mawr. Ei hoff lyfrau oeddynt, Geiriadur Charles, Ysgrifeniadau Dr. Owen, ac Esboniad Trapp. Yr oedd o ran gwybodaeth, tuedd a pharodrwydd duwinyddol, yn addasach i gael ei alw yn D.D., na llawer un a raddiwyd â'r gradd hwnw." Bu farw Rhagfyr 8fed, 1851, yn 71 mlwydd oed.

PARRY, Parch. JOHN, gweinidog yr Annibynwyr yn Gomer, yn Sir Allen, Ohio, America. Ganwyd ef mewn amaethdy, o'r enw Penycefn, plwyf Llanfor, yn Penllyn, Mawrth 12fed, 1810. Cafodd ei ddwyn i fyny yn grefyddol, a phan yn 17 mlwydd oed, derbyniwyd ef yn gyflawn aelod. Cyn hir dechreuodd bregethu, ac aeth i'r ysgol at y Parch. M. Jones, i Lanuwchlyn; aeth wedi hyny i'r Amwythig i'r ysgol at y Parch. J. Jones, Marton; ac wedi hyny bu am dair—blynedd—a—haner o dan addysg y Parch. Edward Davies, yn y Drefnewydd. Yn 1838, derbyniodd alwad yr eglwysi canlynol, sef Machynlleth, Pennal, Llanwrin, ac Achor, a neillduwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth. Derbyniodd alwad eglwysi y Wern a'r Brymbo, ar ol marwolaeth y Parch. W. Williams. Wedi bod yno am 6 blynedd, derbyniodd alwad eglwys Machynlleth eilwaith, lle y bu am bedair blynedd. Ymhen ysbaid, derbyniodd alwad oddiwrth eglwysi Llanystumdwy, Rhoslan, a Thabor, Sir Gaernarfon. Yn 1850, symudodd i'r America. Yr oedd yn hynod benderfynol gyda phob amcan er yn blentyn. "Yr oedd yn bregethwr synwyrol a dylanwadol. Fel pregethwr, ni chyfrifid ef yn y dosbarth blaenaf, er ei fod ymhell ymlaen ar y rhan amlaf a arferent y gwaith bwn, ac yr oedd ynddo ragoriaethau na pherthynent ond i ychydig." Bu farw Medi 1863, yn 53 mlwydd oed.

PRICE, ROBERT, LL.D., prelad enwog yn ei ddydd, ydoedd bedwerydd mab John Price, Ysw., o'r Rhiwlas, yn Penllyn, lle y ganwyd ef yn 1607. Cafodd ei addysg yn Ysgol Westminster, ac oddiyno etholwyd ef yn efrydydd i Goleg yr Iesu, Rhydychain, yn 1625. Cymerodd ei raddau yn y celfyddydau, ac yna efrydodd y gyfraith, yn yr hon wybodaeth y graddiwyd ef yn wyryf yn 1632. Urddwyd ef yn ddiacon yn Mangor yn 1634, ac yn fuan penodwyd ef yn ficer Towyn Meirionydd. Yn 1635,