Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/86

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwnaed ef yn ganghellydd yn mhrif eglwys Bangor, yr hon swydd a roddes i fyny yn 1636. Gan iddo gael ei benodi yn gaplan Iarll Stratfford, Arglwydd-raglaw Iwerddon, cafodd ddeoniaeth Connor, yn y wlad hono; ac ystyrid ef ar y pryd yn dra hyddysg yn y gyfraith eglwysig. Yn Ebrill, 1639, gwnaed ef yn ddoethawr yn y gyfraith gan Brifysgol Dublin; ac yn fuan cafodd yr un anrhydedd hefyd o Rydychain. Pan dorodd y gwrthryfel Gwyddelig allan, collodd bob peth a feddai yn y wlad hono, a dioddefodd lawer oherwydd ei freingarwch; ond ar ddychweliad Siarl II., adferwyd ef i'w swyddau, a chysegrwyd ef yn esgob Ferns a Leighlin, Ionawr 27, 1660. Ar farwolaeth y Dr. William Roberts, esgob Bangor, penodwyd ef yn olynydd iddo, eithr cyn esgyn i'w swydd, efe a fu farw, Mawrth 26, 1666, a chladdwyd ef yn mhrif eglwys Patrig Sant, lle ni roddwyd na chofgolofn na chofnod i ddynodi y fan.—(Wood's Athen. Oxon; Willis, Bangor.)

RHIRYD FLAIDD, o Riwwaedog, ger y Bala, yn Mhenllyn; boneddwr cyfoethog, yn ei flodau yn xi. ganrif. Mab ydoedd i Gwrganau ab Collwyn; a'i fam ydoedd ferch i Bleddyn ab Cynfyn, o'r Nannau, a chwaer i Cadwgan o'r Nannau. Defnyddiai y cyfenw Blaidd er parch i'w hynafiaid ar du ei fam, sef, y Blaidd Rhudd, o'r Gest, ger Penmorfa, yn Arfon, Rhiryd ydoedd arglwydd Penllyn, a phreswyliai yn Rhiwwaedog. Yr oedd ei feddianau tirol yn cynwys pum' plwyf Penllyn; Lleyn ac Eifionydd, yn Ngwynedd; Penant Melangell, a'r Glyn, yn Mhowys; ac un dref ddegwm ar ddeg yn sir Amwythig. Y mae amryw o brif deuluoedd Gogledd Cymru yn olrhain eu hachau o hono. Ei beis-arfau oeddynt "veit, chevion between the wolves' heads erased argent."

RHOBERT, MORYS ab, o'r Bala, ydoedd fardd gwlad lled dda, ac yn meddu awen barod, fel y prawf amryw draddodiadau sydd am dano ar lafar gwlad, ac yn argraffedig yn y Gwyliedydd am 1823, t.d. 273; a'r Brython am 1860, t.d. 265, a 270. Nid ymddengys fod dim ond ambell englyn damwain o'i waith ar gof a chadw.—(Geir. Byw. Lerpwl.)

ROBERTS, Parch. DAVID, (Da'i Glan Tegid,) Bala, ydoedd bregethwr gyda'r Trefnyddion Calfinaidd. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1832. Cafodd ei dderbyn yn aelod eglwysig yn ieuanc, a chafodd ei dderbyn hefyd fel pregethwr gyda'r Trefnyddion