Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/87

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Calfinaidd, ac yn un o efrydwyr yr athrofa yn y dref hono. Yr oedd yn ŵr ieuanc o wybodaeth eang ac o ddoniau helaeth iawn, ac wedi ei benodi i fod yn ngoror Clawdd Offa; ar yr hyn yr oedd wedi rhoddi holl fryd ei galon hyd ei funudau olaf; cael gwneuthur rhywbeth dros Iesu Grist yn y byd oedd ei brif fyfyrdod a thestyn ei ymddiddanion ar hyd y dydd; a hyn hefyd oedd cynwys ei freuddwydion yn oriau ei gwsg. Dywedai y noson cyn ymadael â'r fuchedd hon, ei fod yn meddwl yn sicr na chai ef fyned i uffern, er ei fod wedi ofni myned yno ganwaith, ond nad oedd ganddo ddim am ei fywyd ond haeddiant y Meichiau mawr, Yr oedd ganddo hefyd awen hedegog, dlws ei chynganeddau.

ROWLANDS, Parch. DAVID, Bala, gweinidog gyda'r Trefnyddion Calfinaidd, gerllaw y Bala, yn Penllyn. Ganwyd ef yu 1795. Pan yn 18 oed, dechreuoedd bregethu, a phregethodd yr Arglwydd Iesu yn wresog am 48 o flynyddoedd. Yn 1831, urddwyd ef yn Nghymdeithasfa y Bala. Bu am ryw ysbaid yn yr ysgol gyda'r Parch. John Hughes, Wrecsam, o Lerpwl wedi hyny; ond yr oedd wedi ei lyncu gan ysbryd pregethu yn gymaint fel na enillodd lawer o addysg; a dywedai, "ni adawaf i'r cynhauaf fyned heibio a minau yn hogi fy nghryman." Ond yr oedd yn ddigon o Sais i allu casglu mêr duwinyddiaeth y Saeson, chwynai yn fynych na fuasai yn deall y tair iaith yr oedd achos yr Iesu yn ysgrifenedig ynddynt ar y groes—y Groeg, Lladin, a'r Hebraeg. "Gŵyr pawb a glywodd David Rowlands yn pregethu fod ganddo ddull a dawn neillduol o'i eiddo ei hun heb fod neb yn debyg iddo ef, nac yntau yn ymdebygu i neb arall. Yr oedd yn meddu ar ddychymyg bywiog, a theimlad cynhyrfiol; ac yr oedd arabedd yn naturiol iddo, a chanddo gyflawnder o hen eiriau Cymreig cryfion a mynegiadol gwledig, ac agos at y bobl, yn hynod wrth law ar bob achlysur; ac yr oedd hyn gyda'i ddull Cymroaidd a gwladaidd, yn gosod argraff anefelychadwy ar ei bregethiad.' Bu Dafydd Rolant yn hynod gymeradwy a phoblogaidd fel pregethwr tros ei holl oes; byddai ei wrandawyr yn rhy llosog i'r capelau eu cynwys, ymhob man braidd lle y pregethai. Claddwyd ef yn ngladdfa capel y Llidiardau, ger y Bala, a chyfarchwyd y dyrfa ar yr achlysur gan y Parch. John Parry, Bala, a phregethodd y Parch. Dr. Edwards yn y capel, o'r 1 Cor. xii. 4—6 Y mae "Cofiant Dafydd Rolant," a chofiant D. R. ydyw hefyd ac Q nid neb arall, wedi ei gyhoeddi gan Mr. Hughes, o Wrecsam, o waith y bywgraffydd enwog, y Parch. Owen Jones, y Tabernacl, Ffestiniog, ac awdwr athrylithgar "Cofiant Robert Tomos," o'r un gymydogaeth.

SION DAFYDD, Penllyn Tegid, yr hwn hefyd a elwid "Sion Dafydd Las," ac weithiau "Bardd Nannau," a anwyd mae yn debyg yn y Pandy, ger Llanuwchlyn. Yr oedd yn blodeuo o 1650 hyd 1690. Yr oedd yn delynor a bardd, ac yn gyffredin yn Nannau. Clerwr oedd wrth ei alwad farddonol. Dywed yr Hynafiaethydd o'r Waenfawr fod ganddo lawer o'i waith mewn llawysgrifen a'u bod yn taflu goleuni mawr ar achau boneddion ei oes. Y mae "Cywydd Marwnad i Robert Wyn Hen, (A.D. 1691.) o Faes y Neuadd, yn Ardudwy," yn y Brython, cyf. IV., t.d. 264; o waith Sion Dafydd. Rhoddwn yma ddau "Englyn i Bont y Pandy," o'i waith :

Llun enfys hwylus dan haulwen,—oreudeg,

A rodir yn llawen;
Camog wych, emog wen,
Llawn ddalent yn ddwy ddolen.
Hael yw ei modd i hwylio meirch
Mawrion, a dynion dros Dwrch, [1]
A phynau hydd hoff iawn barch,
A phawb i'w man, a phob merch.

Yr ydym yn deall fod Sion Dafydd yn bur hoff o'r ddiod gadarn, dyma englyn eto a wnaeth ar ei oferedd:

Ofer pan hanner hunwyf,—a hefyd

Ofer pan ddeffrowyf;
Afradus ofer ydwyf,
Fe ŵyr Duw ofered wyf.

(Nid ydym yn hoff ychwaith o gofnodi gwendidau ein henwogion. "De mortuis nil_nisi bonum,"—"Of the dead say nothing except what is good.") Y mae llawer o'i hanes yn y Gwyliedydd.

RICHARDSON, HENRY, Ysw., o Aberhirnant, yn Penllyn, ydoedd drydydd mab Samuel Richardson, o'r un lle. Yr oedd yn deilliaw oddiwrth Syr Thomas Richardson, Arglwydd Brif-Farnwr y Llys-Benadur, yn amser y Siarliaid. Ganwyd gwrthddrych y crybwyllion hyn yn 1791. Wedi cael ei ddysgeidiaeth yn Rhydychain, a graddoli, efe a ymunodd â'r fyddin, ac a wasanaethodd am rai blynyddau fel banerydd a rhaglaw y 69ain gatrawd yn yr Orynys, ac wedi hyny yn yr ail Feirch-warchlu yn Ffrainc. Ar ddiwedd y rhyfel, gadawodd y fyddin, ac ymsefydlodd yn y palas

  1. "Dwrch," enw yr afon.