Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/91

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ugain mlynedd cymerwyd ef yn glaf gan y cancer yn ei gylla, a bu farw Gorphenaf 4, 1857.

THOMAS, Parch. WILLIAM, gweinidog yr Annibynwyr yn Beaumaris, swydd Môn, oedd enedigol o'r Bala, yn Penllyn. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1812. Cafodd addysg dda, yn benaf yn ysgol waddoledig yn Tydandomen. Derbyniwyd ef yn gyflawn aelod pan yn bur ieuanc. Yn fuan gadawodd gartref am Harwood, ger Wrecsam; a bu yn hynod ymdrechgar a llafurus gyda'r achos yn y lle hwnw, yr hon eglwys oedd dan ofal gweinidogaethol y Parch. W. Williams, Wern. Er fod Mr. Williams yn tynu lluoedd ar ei ol ymhob congl a chilfach yn Nghymru. Nid oedd Harwood yn deimladwy o'i ddylanwad; yn canfod hyn Mr. Thomas a ymdrechodd ffurfio cyfeillgarwch â phobl ieuaincy gymydogaeth, a thueddodd amryw o honynt i uno â'r ysgol Sabbothol. Cynhaliai gyfarfodydd gweddiau, &c. Cyn hir anogwyd ef i bregethu, ac aeth i Marton, yn swydd Amwythig, i'r ysgol, at y Parch. J. Jones. Yn Awst, 1830, urddwyd ef yn Horeb, Dwygyfylchi, lle y llafuriodd mewn modd cymeradwy a llwyddianus am bum' mlynedd. Yn Medi, 1844, derbyniodd alwad eglwys Seion, Beaumaris. Yn 1857 collodd ei frawd hynaf, sef y Parch. J. Thomas uchod, o'r Bala. Effeithiodd hyn yn ddwys ar ei feddwl. Ac yn Ebrill 15, 1865, collodd ei briod, yr hyn a'i dyrysodd i fesur fel gweinidog, trwy ei daflu i ormod tristwch. Yr oedd yn weinidog galluog, ffyddlawn, a phoblogaidd iawn. Bu farw Ebrill, 1866, yn 54 oed.—(Geir. Byw., Aberdâr.)

THOMAS, Parch. WILLIAM, o'r Bala, ydoedd weinidog gyda'r Annibynwyr. Ganwyd ef yn Awst 1749. Amaethwyr cyfrifol oedd ei rieni; yr oedd ei dad yn enedigol o swydd Forganwg, a'i fam o swydd Gaerfyrddin. Cafodd addysg dda pan yn blentyn; a phan yn bur ieuanc aeth i Lundain, lle yr oedd ganddo berthynasau mewn sefyllfa gyfrifol, a chafodd le gyda masnachwyr yn Long Acre, lle y bu mewn parch mawr. Pan oedd tua 23 daeth adref at ei fam, i gymydogaeth Llanymddyfri; ac arferai fyned i wrando y Parch. Isaac Price, yn eglwys Crug y Bar, lle yr ymunodd yn fuan â'r eglwys hono, a chyn hir dechreuodd bregethu. Bu am ddwy flynedd yn athrofa Ymneillduol Abergefenni, o dan y Dr. Davies. Oddiyno ordeiniwyd ef yn nghapel Llanover, ger y dref hono; ac ymhen ychydig flynyddau wedi hyny efe a symudodd i'r