Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/92

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Bala, yn Mhenllyn, lle y bu yn llafurio dros 21 o flynyddoedd. Tra y bu yno cyhoeddodd amryw lyfrau :—1, "Myfyrdodau diweddaf y Parch. Mr. Baxter ar farwolaeth," &c.; Trefecca, 1792. 2, "Arfogaeth y gwir Gristion," &c., cyfieithiad yw hwn eto o weithiau Gurnal a Dr. Guyse: Trefecca, 1794. 3, "Cyfaill i'r Cystuddiedig," &c., cyfieithiad o lyfr y Parch. John Willison; Trefecca, 1797. 14, Cyfieithu "Dioddefaint Crist," o waith Joseph Hall, D.D., 66 ac Angau i angau y' marwolaeth Crist," o waith John Owen, D.D., y ddau yn un llyfr; Trefecca, 1800. 5, "Cyfarwyddiadau mewn Geography," &c.; Caerlleon, 1805; 225 o dudalenau 12 plyg. 6, Ei waith mawr oedd cyfieithu "Esboniad Guyse ar y Testament Newydd." Costiodd y rhodd yma i Gymru yn ddrud iawn i'r cymwynaswr—collodd 300p. ar yr anturiaeth. Ystyrid Mr. Thomas yn bregethwr da, a gwir awyddus i wneyd daioni trwy ei bregethau a'i gyhoeddiadau. Bu farw yn y Bala, Mai 1809, yn agos i 60 oed.

WILLIAMS, ROBERT, o'r Pandy Isaf, Trerhiw—waedog, ger y Bala, ydoedd fardd da, ac yn ei flodau yn rhan olaf y ganrif ddiweddaf. Efe oedd athraw barddonol Ioan Tegid, a cheir crybwyllion ffafriol am dano yn ngweithiau barddonol y Cymro enwog hwnw. Efe oedd awdwr gwreiddiol y llinell boblogaidd "Bibl i bawb o bobl y byd," a briodolir mor fynych i Fardd Nantglyn. Nid oes genym unrhyw brawf dros ameu gonestrwydd awdwr "Marwnad Sior III.," er fod y llinell wedi ymddangos mewn cyfres o englynion i'r Bibl yn y Drysorfa Ysbrydol, dan olygiaeth Mr. Charles, flynyddau lawer cyn Eisteddfod Gwrecsam. Bu Robert Williams farw mewn henaint teg, yn y flwyddyn 1808. Y mae llawer iawn o'i waith ar gael mewn llawysgrifau.—(Geir. Byw., Aberdâr.)