Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/93

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

DOS. III.

ENWOGION EDEYRNION,

(HEN A DIWEDDAR)

(Glyndyfrdwy ac Edeyrnion, amser gynt, oeddynt gwmydau gwahanol, ond yn awr y mae y ddau yn myned dan yr enw Edeyrnion. Cynwysa y plwyfydd canlynol:—Llandrillo, Llangar, Corwen, Llansantffraid, Bettws-gwerfil-goch, a Gwyddelwern. Yn mhlwyf Corwen y gwersyllodd Owen Fawr, Tywysog Gwynedd, yn 1164, pan ddaeth Harri yr Ail yn erbyn Gogledd Cymru. Y mae yr amddiffynfeydd i'w gweled eto. Ar y tu arall i Ddyfrdwy y mae Rug, hen aneddle Mr. William Salisbury, o Lyndyfrdwy. I'r lle hwn y deisyfodd Iarll Caerlleon ar i Gruffydd ap Cynan, Tywysog Cymru, ddyfod gyda gosgordd fechan i'w gyfarfod ef, heb fawr ddisgwyl fod unrhyw fradwriaeth ar droed, ac efe a gymerwyd gan y dywededig Iarll, ac a garcharwyd am hir amser. Eglwys Gwyddelwern a adeiladwyd gan St. Beuno, ar y tir a roddwyd iddo gan Canon ap Brochwel Ysgythrog, Brenin Powys, fel y tystia ysgrifenydd hanes bywyd St. Beuno.)

CADWALADR, ELLIS, bardd o Landrillo, yn Edeyrnion. Blodeuodd o 1707 i 1740. Efe a enillodd yn yr eisteddfod a gynhaliwyd yn y Bala ddydd Llun y Sulgwyn, 1738. Yr anrhydeddus a'r dysgedig athraw, Edward Wynne, ficer Gwyddelwern, oedd y barnwr, a chyfansoddodd englynion i'r holl ymgeiswyr, a diweddodd "i'r gwr a gariodd yr eisteddfod," drwy ddywedyd―

"Goreu i gyd, gŵr y gadair."

Yr oedd E. Cadwaladr yn dra chelfyddgar yn y mesurau caethion. Cyfansoddodd ddau englyn i'w gosod ar fedd Huw Morris yn 1709, er mai gwaith Ficer Gwyddelwern a ddewiswyd. Gwelir pedwar o'i gyfansoddiadau yn y Blodeugerdd, un carol,—carol plygain i foliannu Duw. 1707. "Ymddiddan rhwng dyn a chydwybod;" "Clod i Ferch." Y mae ei "Glod i Ferch" yn ar-