Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/94

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddangos y gwyddai rywbeth am enwau clasurol, a'i fod yn fwy ei ddysg na lliaws o'i gyfoeswyr. Dyma englyn o'i waith i "Gyweirgorn Telyn," dros William Dafydd i Sion Puw, y gôf, o Fachynlleth:

Tair pibell i gymell y gân,—awr fedrus
Ar fodrwy liw arian;
Tynu mae y tannau mân,
Tiws eurgerdd at lais organ.

—Ellis Cadwaladr a'i cânt.

CLOUGH, Parch. R. B., M.A., periglor Corwen; bardd a llenor dysgedig, yn ol tystiolaeth Bardd Nantglyn am dano. Gwelsom rai o'i gyfansoddiadau barddonol yn y Gwyliedydd. Bu farw Gorph. 11, 1830, yn 48 oed. Dywed Bardd Nantglyn wrth ei anerch,

"Bardd ydych o bur ddodiad,
Adwaenoch swn adenydd
Cystrawen yr awen rydd,
Medrwch glymu ymadrawdd
Goleu teg dan gload hawdd."

Ei farwolaeth ef oedd un o destynau Eisteddfod Edeyrnion, Tach. 5, 1830. Rhagorai fwy, mae'n debyg, fel noddwr haelionus beirdd a barddoniaeth nag fel bardd ei hunan. Yr oedd ef yn nodedig am ei wladgarwch a'i ddybewyd dros iaith a llenyddiaeth y Cymry. —(Geir. Byw., Liverpool). Rhoddwn yma ddau englyn o'i waith "Yn erbyn barnu eraill :"

"Ti ferni, gweli fai gwan,—dyn arall,
Dan you gair gogan;
Er nad oes, iawn-foes un fan,
Da o honot dy hunan.

"A fynych i fyw enyd—gan undyn,
Ac uniondeb glân-bryd;
Dyro i bawb, ar dir y byd,
Dawn hoff onest un ffunyd."

Corwen, Mai 13, 1823.
—R. B. C.

CILAN, HYWEL, bardd enwog yn ei flodau, o 1460 i 1490. Ychydig o'i waith a gyhoeddwyd, ond y mae llawer ar gael mewn llawysgrifau. Efe oedd perchenog Llawr y Cilan, yn Llandrillo, yn Edeyrnion.

CLYNOG, MOURICE, aelod o athrofa Rhydychain, lle y graddiwyd ef yn Wyryf y Gyfraith, yn 1548. Yn 1556, cafodd rectoriaeth Corwen, yn Meirion; a gwnaed ef yn gor-beriglor Caerefrog, ac yn swyddog yn llys yr uchelfraint o dan y Cardinal Pole, archesgob Caergaint. Yn fuan ar ol marw y Dr. William Glynn, esgob Bangor, yn 1558, darfu i'r frenhines Mari benodi Clynog yn ddilynydd iddo; ond gan i'r frenhines farw cyn iddo