Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/95

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gael ei gysegru i'r swydd, efe a enciliodd, a Dr. Goldwell, esgob, Llanelwy, gydag ef trosodd i Rufain. Yno efe a wnaed yn rector y Clafdy Seisnig, wedi i'r adeilad hono gael ei throi yn goleg i fyfyrwyr Seisnig. Gelwid ef yno Dr. Mourice; a thrwy ei fod yn dra phleidiol i'r myfyrwyr Cymreig, enynodd gasineb yn ei erbyn oddiwrth y Saeson, yr hon a barai ymrysonau mynych; a'r Pab a ddiswyddodd y. Dr. o'r herwydd, yn 1581.—(Wood's Athen. Oxon.; Geir. Byw. Lerpwl.)

CYNFRIG HIR, brodor ydoedd o Edeyrnion. Gruffydd ab Cynan, tywysog Gwynedd, wedi bod o hono yn dihoeni yn ngharchar Caerlleon Gawr am ysbaid deuddeng mlynedd fel carcharor rhyfel iar y ddinas hono, a ryddhawyd trwy ddewrder gwladgarol Cynfrig Hir. Cynfrig tan yr esgus o brynu angenrheidiau bywyd, a aeth i Gaerlleon, a chan wylio ei gyfleusdra, a gafodd fynediad rhwydd i'r castell, ac i garchar—gell ei dywysog, yr hwn a ddygodd efe yn gadwynog ar ei gefn i ddiogelfa, tra yr oedd gwŷr arfog y gaer, o'r gwyliwr i'r dystawr, yn ymloddesta uwch y gwin a'r gyfeddach. Anfynych y ceir y pleser o gofnodi engraifft mor ragorol o wrhydri êon a gwladgarol.—(Geir. Byw. Lerpwl.)

CYNWYD, SION, John Williams, neu Sion Cynwyd, oedd fardd da, yn byw yn Nghynwyd, yn Edeyrnion, ac yn ei flodau tua 1800. Gwelir peth o'i waith yn y Cylchgrawn 1793. Gwehydd ydoedd wrth ei alwedigaeth; yr oedd yn aelod gyda'r Methodistiaid, ac ystyrid ef yn ŵr duwiol.

DAFYDD AB HARRI WYN, ydoedd fardd medrus, a brodor o Edeyrnion, yn Sir Feirionydd. Pan oedd ar daith i Eisteddfod Caerwys, yn 1567, darfu i Sion Phylip o Ardudwy, ei orddiwes gerllaw y dref hono, wedi bod ar hyd y nos yn crwydro a cholli y y ffordd ar y mynyddoedd; a gofyn a wnaeth Sion Phylip, ac ef yn hollol ddieithr iddo :

Y mwynŵr, mi ddymunwn
Gael enw y lle hoyw-le hwn?

Yna atebodd Dafydd ab Harri Wyn ef yn ebrwydd fel hyn:—

Caerwys yw hon, cares hardd,
Cyrch hen feirddion feirddion fyrdd,
Cymer i'w nawdd, Cymry nordd,
Cor lle'n tywys cynwys cerdd.

Ymddengys fod ar yr englyn hwn ddau orchestwaith neu dri, nid amgen, Cynghanedd groes rywiog, a chynghanedd unawdl gyfrochawl bob yn ail; ac hefyd gymeriad llythyrenol yn y sillau