Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/96

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwreiddiol. Gwnaeth hyn i Sion Phylip ryfeddu yn fawr, iddo gael ateb mor fuan ar orchest bencerddaidd. Yn y blaen yr aethant, ac ni allai Sion Phylip ddyfalu pwy oedd y gwr dieithr o brydydd celfyddgar. Yn y dref fe gollodd ei olwg arno, ond Sion a gofiodd yr englyn, ac a'i dangosodd yn enw y gwr dieithr dienw, ger bron yr eisteddfod, a mawr y canmol a fu ar barodrwydd awen, a chywreindeb celfyddyd a'i cânt. Yna dodwyd gosteg, a gwahoddiad i'r gwr a'i cânt ddyfod ymlaen a dodi dangos am radd pencerddaidd; ond ni chodai neb. Wedi hyny caed gwybodaeth pwy oedd y gwr, nid amgen na Dafydd ab Harri Wyn, o Edeyrnion gŵr na wyddai neb cyn hyny ei fod yn brydydd. A phan y profwyd ef gan Sion Phylip ac ereill, gwelwyd ei fod yn medru yr holl fesurau cerdd â'u perthynasau, a'i fod wedi canu arnynt yn orchestach na neb a gawsant raddau pencerddiaid yn yr eisteddfod. A chwedi dangos y cwbl o'i waith ei hun yn ysgrifenedig, efe a'u taflodd i bobty mawr oedd a thân ynddo, lle y dinystriwyd hwynt yn ebrwydd; gan ddywedyd nad oedd y cyfryw bethau ond oferedd a blinder meddwl; ac efe a brophwydodd na chaid eisteddfod o'r fath eto yn Nghymru, oni chaid yr holl brydyddion â'r gŵyr doethion i ymwrthod yn llwyr â'r fath deganau moelion. (Geir. Byw. Lerpwl; O Lyfr Ieuan Brydydd Hir.)

DAFYDD MANUEL. Bardd gwladaidd, yn ei flodau tua 1700. Dywed rhai mai brodor o Edeyrnion ydoedd; ereill a ddywedant mai mewn tŷ bychan ar dyddyn o'r enw Gwern Afon, yn mhlwyf Trefeglwys, yn agos i Lanidloes, y trigai. Mae cân a enwai "Bustl y Cybyddion," o'i waith yn y Blodeugerdd.—(Geir. Byw. Lerpwl.)

DAFYDD WILLIAM PYRS, oedd fardd, o Gynwyd, Sir Feirionydd. Yr oedd yn byw yn 1660. Y mae cân o'i waith ar gael, mewn cysylltiad â Mathew Owen, o Langai, ar ddull ymddiddan rhwng dwy chwaer am ŵra, yn Blodeugerdd Cymru, tudal 207.—(Geir. Byw. Aberdar; Brython, cyf. IV, tudal 328.)

DAVIES, HUGH a anwyd Mehefin 2, 1838, mewn lle a elwir Penlan, yn Nyffryn Edeyrnion. Mor gynted ag y daeth i oedran priodol, cafodd addysg dda gartref, yn ysgolion Sabbothol a dyddiol y gymydogaeth. Gwnaeth gynydd canmoladwy ymhob cangen o addysg gyffredinol, a thalai sylw manwl i ymddiddanion yr am-