Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/97

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

seroedd a phynciau ei oes. Pan yn Rhuthyn, yn yr Ysgol Frytanaidd, ymwasgodd a'r eglwys Annibynol yn Mhenydref, a derbyniwyd ef yn gyflawn aelod pan yn brin gyraedd ei 14 mlwydd oed, a chafodd y fraint o fyw yn addas i'w broffes hyd ddiwedd ei oes. Yn ngwanwyn y flwyddyn 1855 aeth yn ysgrifenydd i'r North and South Wales Bank, yn Ninbych, a llanwodd ei le yn anrhydeddus yno am bedair blynedd. Yn 1859, symudwyd ef i Lerpwl, i fod yn gyfrifydd o dan yr un cwmpeini, ac oddi yno symudodd yn eu gwasanaeth yn y flwyddyn 1860 i Aberystwyth, ac enillodd yno air da pawb a'i hadwaenai mewn byd ac eglwys; ond gwaelodd ei iechyd, a bu raid iddo adael pobpeth a dychwelyd adref, yn Mehefin, 1861; ac er pob ymdrechion meddygol, bu farw y gŵr ieuanc caredig ac addawol hwn y dydd cyntaf o Orphenaf, 1861. Yr oedd yn lenor gobeithiol. Detholai, prynai, a darllenai y llyfrau goreu, a darllenai lawer ar ei Fibl, fel y dengys yr ysgrifeniadau a adawodd ar ei ol—(Geir. Byw., Aberdar.)

ELIS AB ELIS, Parch. bardd ac offeiriad yn trigianu yn Llandrillo, rhwng 1580 a 1620. Ceir "Cywydd i'r Arian," o'i waith yn y Gwladgarwr iv. 18, ac yn y Blodeugerdd; 1, Carol Plygain, 2, Hanes Llundain, 3, Gofal Cybydd am ei Ferch.

EVANS, EDWARD, (Iolo Gwyddelwern), oedd fardd lithrig a pharod ei awen. Ganwyd ef o fewn plwyf Gywyddelwern, yn 1786. Gwneuthurwr prenau traed ydoedd wrth ei alwedigaeth. Gadawodd lawer o'i waith mewn llawysgrifau ar ei ol. Bu farw yn Stryd Clwyd, Rhuthyn, Mawrth 26ain, 1853. Claddwyd ef ger addoldy y Bedyddwyr, Llanfwrog, ac y mae englyn tarawiadol o'i gyfansoddiad ef ei hun yn argraffedig ar gareg ei fedd.— (Geir. Byw., Lerpwl.)

EVANS, THOMAS, Adwy y Clawdd, ydoedd fab i Evan a Jane Evans, Ty'n-y=cefn, ger Corwen, lle y ganwyd ef yn y flwyddyn 1809. Cafodd feithriniaeth werthfawr mewn gwybodaeth ysgrythyrol, trwy yr Ysgol Sabbothol, o'i febyd; a phan ydoedd yn dra ieuanc, dechreuai y gwirioneddau dwyfol a ddarllenai ac a wrandawai, adael argraff led ddwys ar ei feddwl; a phan ydoedd oddeutu deunaw oed, efe a ymunodd â'r eglwys berthynol i'r Trefnyddion Calfinaidd yn Nghorwen. Wedi hyny efe a symudodd i fyw i'r Carneddau, ger Croesoswallt. Wrth weled ardaloedd y Goror yn soddedig mewn dwfn anwybodaeth ac anys-