Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/98

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

tyriaeth paganaidd, efe a deimlai awydd cryfi wneuthur rhyw ymdrech i'w dihuno, a hyny a arweiniodd i beri iddo ddechreu pregethu. Wedi bod yn cyfaneddu yn y Carneddau am oddeutu deunaw mlynedd, efe a symudodd i Adwy y Clawdd, lle y treuliodd y gweddill o'i oes mewn ymdrechiadau diflino i wneyd daioni i'w gyd—ddynion; a gellid gweled yn nwysder ei holl bregethau fod achub pechaduriaid yn beth pwysig a difrifol ar ei feddwl. Bu farw mewn tangnefedd, ar yr ail o Fawrth, yn y flwyddyn 1857, pan yn 48 mlwydd oed, wedi bod yn aelod eglwysig am 31 o flynyddau, ac yn pregethu am 22 o flynyddau.—(Geir. Byw., Aberdar.)

FYCHAN, GRUFFYDD, Arglwydd Glyndyfrdwy, yn Swydd Feirion, a Cynllaith, yn Swydd Dinbych, a briododd Helen, merch Eleanor Goch, yr hon oedd yn ferch i Catherine, merch y Tywysog Llewelyn. Efe oedd tad yr enwog Owen Fychan (Owen Glyndwr). (Yn yr hen amser, yr oedd Glyndyfrdwy ac Edeirnion, yn gwmydau gwahanol, ond yn awr y maent yn myned o dan yr enw Edeyrnion.)

FYCHAN, OWEN, alias OWEN GLYNDWR, Arglwydd Glyndyfrdwy. Mab ydoedd i Gruffydd Fychan ab Gruffydd, o'r Rhuddallt, ab Madog Fychan ab Gruffydd, Arglwydd Dinas Bran, ab Madog ab Gruffydd Maelawr, ab Meredydd ab Bleddyn ab Cynfyn. Ei fam ydoedd Elen, yr hon ydoedd o waed breninol, a merch hynaf Tomas ab Llewelyn ab Hywel, o'i wraig Eleanor Goch, yr hon oedd ferch ac etifeddes Catherine, un o ferched Llywelyn, tywysog diweddar y Cymry; wrth hyny yr oedd Owen yn dyfod o frenhinoedd Powys o du ei dad, ac o frenhinoedd Gwynedd o du ei fam. Ganwyd ef Mai 28ain, 1348, neu 1349, ymha le sydd ansicr. Yr oedd ganddo un llys yn Edeyrnion, tua phedair milldir o Gorwen, ac un arall yn mhlwyf Llansilin, Swydd Ddinbych, a elwir Sycharth. Yn 1400, cyhoeddwyd ef yn Dywysog Cymru, a chynhaliodd ryfel gwaedlyd â'r Saeson am 15 mlynedd. Y mae hanes bywyd Owen Glyndwr fel rhyfelwr, yn un o'r rhai mwyaf dyddorol, ac yn rhy lawn o helyntion i ni allu rhoddi crynodeb o honynt yma. Bu farw tua'r flwyddyn 1415, ond nid oes sicrwydd ymha le, nac ymha le y claddwyd ef. Y mae traddodiad yn nodi lle tua thair milldir o Gorwen fel mangre ei fedd.(Gwel Hanes y Cymry gan y Parch. Owen Jones; Ei Fywyd,' gan W. Owen, &c.)