Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/99

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

GRIFFITH, Parch. THOMAS, a anwyd ar y 26ain o Fedi, 1792. Efe a argyhoeddwyd o'i gyflwr colledig dan weinidogaeth y diweddar Barch. J. Jones, Corwen, ac yn fuan ymunodd â chymdeithas y Trefnyddion Wesleyaidd, yn mis Tachwedd, 1811; ac yn y flwyddyn 1816, teimlodd ddymuniad i fod yn offeryn i droi pechaduriaid o gyfeiliorni eu ffyrdd, a dychwelyd at yr Arglwydd Iesu Grist, yr unig noddfa. Yr oedd yn bregethwr cymeradwy ac yn fywiog a selog iawn yn y gwaith pwysig, Yr oedd ei ddawn fel pregethwr yn rhagori ar y cyffredin. Hunodd mewn gobaith o adgyfodiad gogoneddus, Tachwedd 20fed, 1836, yn 44 oed.—(Eurgrawn Wesleyaidd am Ebrill, 1839, tudal. 93.)

HUGHES, HUMPHREY, Ysw., ydoedd fab hynaf Rhisiart Hughes, o'r Gwernclas, yn Edeyrnion, a degfed arglwydd Cymer, ac a anwyd Awst 14, 1605. Gwnaed ef yn uchel sirydd Meirionydd yn 1670. Yr oedd yn ymroddgar a selog dros deulu breninol y Stewarts; oblegyd hyn y fforffetiwyd ei etifeddiaeth; ond etifeddianodd hwynt drachefn trwy dalu i Oliver Cromwel a'i gyngor y swm bychan o 333p. 10s. 9c. Priododd ferch ac etifeddes John Roper, o Bryntargor, yn Mryneglwys-yn-Ial. Bu farw Mai, 1682. —(G. Lleyn.)

HUGHES, THOMAS, ydoedd fab i Humphrey Hughes, o'r Gwernclas, ac 21ain Arglwydd Cymer, yn Edeyrnion, ac a anwyd Medi 10, 1628; a phriododd Mari, ferch John Griffith, o Hendreforfydd, Meirionydd. Priododd yr ail waith â Mari, ferch Thomas Griffith, Plas Einion, yn Sir Ddinbych. Addysgwyd ef i'r gyf raith, a gwnaed ef yn ddadleuydd. Ymenwogodd ei hun yn ei zel freiniol, ac ymroddodd fel cadben yn ngwasanaeth y brenin Siarl yr Ail.—(G. Lleyn.)

HUGHES, ROBERT, o'r Gwernclas, yn Edeyrnion, ydoedd 4ydd mab i Huw ab Huws o'r Gwernclas. Bu flynyddoedd yn ysgrifenydd teuluaidd i'r Clifforiaid tywysogaidd, Iarllod Cumberland; a chan y rhai yr ymddiriedid ef gartref ac ar led, ar genadaethau pwysig yn achos y llywodraeth yn gystal ag achos cyfrinachol. Priododd ferch i John Volpe, neu Iavanni Volpe, Meddyg Italaidd enwog, yn Tachwedd 2, 1601. Gwnaeth ei hun yn nodedig yn amser Elizabeth, trwy gyd—ymdeithio â Sior, Iarll Cumberland, y rhan fwyaf o'i deithiau morawl; ac yr oedd gydag