Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/100

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ef yn cymeryd Portoucs, yn yr India. Bu farw Mawrth 21, 1641, yn 80 oed.

JONES, THOMAS, yr almanaciwr, a chyhoeddydd amrai lyfrau eraill, a anwyd, meddir, yn Nhre'r Ddol, ger Corwen, yn nghwmwd Edeyrnion, yn Sir Feirionydd, yn 1647. Dywedir iddo fyned i Lundain fel gwnïedydd (teiliwr), yn ddeunaw oed; lle y daeth hefyd yn fasnachydd o gryn fri. Arferai deithio trwy yr holl wlad, gan gadw ffeiriau Caerlleon, Amwythig, Gwrecsam, a Bristol. Yn y flwyddyn 1680, dechreuodd gyfansoddi a chyhoeddi Almanaciau, y rhai a alwai yn "Newyddion mawr oddiwrth y Ser." Efe oedd y cyntaf i gyhoeddi Almanaciau priodol; er y dywedir mai math o Almanac ydoedd y llyfr cyntaf Cymraeg, gan Syr John Price; ac yr oedd "Gwyddorion Naturiol, neu Brif—lyfr Newydd" Charles Edwards, yn cynwys dyddiau'r mis, &c., am dair blynedd; eto, nid hyny yn unig ydoedd y llyfrau hyn, eithr amrywiaethau eraill, a'r rhan galendraidd yn cael ei chysylltu, yn debyg fel y rhoddid y Wyddor, ac ychydig gyfarwyddiadau i ddysgu darllen, gydag agos bob llyfr Cymraeg gynt, er mwyn cyfleusdra i'r cyffredin, ac er mwy o anogaeth iddynt i'w prynu. Felly hefyd y rhoddid prif bethau mwyaf angenrheidiol Almanac, i'r un diben, yn gysylltiedig â rhai mân lyfrau. Ond T. Jones ydoedd y cyntaf i gyhoeddi blwydd—lyfrau rheolaidd o'r fath. Dilynwyd ef yn fuan gan eraill. Wedi i T. Jones roi ei fasnach heibio, efe a sefydlodd argraffwasg yn yr Amwythig, oddeutu y flwyddyn 1696, i gyhoeddi gweithiau Cymreig, y rhan fwyaf o'i gyfansoddiad neu ei gyfieithiad ei hun. Bu yn dwyn y gwaith o argraffu ymlaen yn Amwythig hyd 1713. Y mae ei Almanaciau ef yn rhai tra gwerthfawr, gan eu bod yn cynwys llawer iawn o bethau buddiol am yr oes hono—am ddynion, a phethau, nas ceir yn un man arall. Yn wir, byddai cronfa o'r hen Almanaciau yn hollol angenrheidiol i unrhyw un a gymerai arno ysgrifenu hanesiaeth yr oesoedd a aethant heibio.—(G. Lleyn). Rhoddwn yma rai o'r llyfrau yr oedd mwy o berthynas rhwng T. Jones â hwy nag argraffydd:—1. "Y Gymraeg yn ei Disgleirdeb, neu Helaeth Eir—lyfr Cymraeg a Saesneg, yn cynwys mwy o eiriau Cymraeg nag sydd yng Eirlyfr y Disgawdwr Sion Dafis o Gymraeg a Láding," &c. Amwythig, 1688; ail argraff gan Stafford Prys, Amwythig, 1760; trydydd argraff gan yr un (Stafford Prys),