Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/101

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

1777. 2. "Unffurfiad," gan T. Jones, ynglŷn ag Articlau Crefydd Dr. Davies. 3. "Y Gwir er gwaethed yw, ac amryw o hen gywyddau;" Llundain, 1683; T. Jones oedd awdwr a chyhoeddwr hwn. 4. "Llyfr Gweddi Gyffredin," of gyfieithiad Thomas Jones, 1688. 5. "Carolau a Dyriau," &c.; ail argraff yn gyflawnach o lawer nag o'r blaen, gan Mr. T. Jones, 1696. 6. Artemidorus—Gwir Ddehongliad Breuddwydion," o gyfieithiad T. Jones, Amwythig (8 plyg), 1698." 7. "Llyfr o Weddiau Duwiol, yn cynwys ynddo fwy na saith ugain o Weddiau ar amryw achosion," &c., a gasglwyd allan o waith yr awdwyr goreu yn Saesneg, ac a argraffwyd yn Amwythig yn 1707, ac ar werth yno gan T. Jones. Yr oedd Mr. T. Jones yn argraffydd a chyhoeddydd ugeiniau o lyfrau Cymraeg, a gallasem enwi lliaws o honynt, ac ar y cyfrif hwn yr ydym wedi rhoddi iddo le ymhlith Enwogion Sir Feirionydd ar gyfrif y daioni a wnaeth i'w genedl yn yr adeg dywyll yr oedd yn byw ynddi. Hefyd, nid peth bychan oedd dringo i'r safle y daeth o'r lle y cychwynodd. 8. Dylasem grybwyll hefyd yr Almanaciau buddiol a gyhoeddodd yn flynyddol am amser mor faith, i ba rai yr oedd yn awdwr, &c.

IEUAN ab GRUFFYDD LEIAF, bardd rhwng 1500 a 1540. Y mae ei waith mewn ysgrifau. Yu ol "Beddau y Beirdd," yn Llandrillo y claddwyd ef.

JONES, Parch. EDWARD, 2il, gweinidog gyda'r Wesleyaid. Ganwyd ef yn ymyl Corwen, yn y flwyddyn 1775. Yn y flwyddyn 1801, daeth Mr. Bryan i bregethu i ardal Corwen, pryd yr argyhoeddwyd y brawd E. Jones o dan ei weinidogaeth lem. Ac yn fuan ymwasgodd â'r disgyblion. Yn 1803, dechreuodd bregethu. Yn 1804, aeth i'r weinidogaeth deithiol, pan y penodwyd ef i Sir Fôn. Un—flynedd—ar—ddeg y bu yn alluog i deithio; ond yn ystod y tymor byr hwnw llafuriodd yn Ne a Gogledd Cymru gyda chymeradwyaeth. Yr oedd ei ffordd i deyrnas nefoedd drwy lawer o orthrymderau. Gorfodwyd ef, o herwydd diffyg iechyd, i fyned yn uwchrif yn y flwyddyn 1815; a dioddefodd gystudd trwm am 23 o flynyddoedd. Gorphenodd ei daith mewn heddwch. Yr oedd o dymer naturiol dawel, ddiymhongar, ac enciliedig. Dywedir ei fod yn bregethwr rhagorol, ond fod ei lais yn hytrach yn wanaidd. Ymddangosodd llawer o benillion o'i waith o bryd i bryd yn yr Eurgrawn a'r Trysor i Blentyn. Bu farw yn