un fantais fawr ganddynt i'w gorbwyso, yr hyn oedd tua 2,846 o erwau o fynydd-dir, heblaw tiroedd ereill, yn llawn mwn a glo, yn eu meddiant trwy brydles, o'r flwyddyn 1748, am y swm fechan o £100 yn y fwyddyn. Priododd Tait a merch i John Guest; a phan y bu ei dad yn nghyfraith farw, disgynodd ei ran ef o'r gwaith i'w fab, Thomas Guest, tad ydiweddar Sir John Guest, er na feddai Thomas ond tua dwy ran o un ar bumtheg. A phan y bu ef farw disgynodd ei hawl i'r diweddar Sir John Guest. Eto, pan y bu Tait farw, am nad oedd plant iddo, disgynodd ei hawl yntau yn y gwaith i'r diweddar Sir John Guest, yr hwn wedi hyny a wnaeth amod a Mr. Lewis, Danyddraenen, fod iddo ef gael rhyw swm flynyddol yn ol yr hyn a gynyrchai y gwaith, ar yr amod iddo ef, Sir John Guest, gael llywyddiaeth y gwaith yn hollol iddo ei hun. Yn y flwyddyn 1806, pan yn meddiant Lewis C. Tait, cynyrchodd y gwaith hwn 5,432 o dunelli o haiarn. Yn y flwyddyn 1815, pryd hwn, gan mwyaf, yn meddiant Sir John Guest, cynyrchodd 15,600 o dunelli oddiwrth 6 o ffwrnesau, tua'r amcangyfrif o 50 tunell yn yr wythnos. Erbyn 1845 yr oedd yma 18 o ffwrnesau a gynyrchasant y flwyddyn hono 74,880 o dunelli o haiarn, tua'r am cangyfrif o 80 tunell yn yr wythnos. Treulient tua 100 tunell yn y dydd o lo, a'r cyflogau, rhwng swyddwyr a gweithwyr, yn cyrhaedd yn flynyddol tua £250,000. Dywedir fod ei gynyrchion eleni (1863) rhywbeth dros 60,000 o dunelli o haiarn. Ac anfonasant gyda'r gwahanol gledrffyrdd, mewn cyfartaledd, tua 600 tunell y dydd o lo. Adeiladwyd yn y gwaith hwn yn ddiweddar felin gledrau, gyda thraul aruthrol; dywedir mai hon yw y fwyaf yn y byd a adeiladwyd i'r dyben hwn, ond nid ydyw wedi bod eto o haner y dyben ei bwriadwyd. Rhwng llog yr arian a aeth i adeiladu hon a chyflogau rhyw 500 o arolygwyr, a hyny ond ar tua 5,000 o weithwyr, nid ydyw yn rhyfedd fod y si yn daenedig allan nad yw y gwaith hwn yn talu ei ffordd. Ond hyderwn, modd bynag, er mwyn y dyrfa fawr ydynt yn derbyn eu cynaliaeth oddiwrtho, na fydd iddo gyfnewid er gwaeth.