Tudalen:Traethawd ar hanes Plwyf Merthyr.pdf/42

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

agos i filltir, a Dowlais yn agos i ddwy filltir a haner; felly, nid oedd gan y naill na'r llall dramwyfa rwydd ac uniongyrchol a'r gamlas. Felly, penderfynodd gwahanol gwmpeini y tri Gwaith a enwasom anfon deiseb i'r Senedd am gael ffyrdd haiarn (tram roads) at eu cyfleusdra. Yn hyn buont yn llwyddianus; a dywedir mai hon oedd y ddeiseb gyntaf a basiwyd i'r cyfryw ddyben yn Senedd-dy Prydain Fawr. Wedi cael hyn oddiamgylch, dechreuasant ffurfio cymundeb rhyngddynt a'r gamlas yn Pont-y-store-house, yn nghyd a gwneuthur ffordd haiarn dramwyol i beirianau, yn gystal a cheffylau, rhwng Dowlais a'r Basin, pellder tua deng milltir; a daeth y ffordd hon yn barod yn y flwyddyn 1804, pryd y gosodwyd peiriant i dramwy arni, o wneuthuriad Mri. Vivian, &c., ac i dynu deg tunell ar ei hol, yn ol pum milltir yn yr awr. Ond ni fuwyd yn ffodus i gael gan y ddyfais newydd hon ateb nemawr ddyben yn y deng mlynedd dilynol. Ac er mor gywrain yr ymddangosai y ddyfais, ac er yr edrychid arni y pryd hwnw braidd yn gampwaith yr oes, nid ydoedd heb le i wneuthur llawer o welliantau arni. Ac yn ol diwygio llawer o radd i radd o'r dull oedd ar y dechreu, parhaodd i dramwy rhwng y lleoedd a enwasom hyd nes i'w rhagorach ddyfod yn agoriad cledr ffordd Dyffryn Taf, yn y flwyddyn 1841. Pe buasai cadw rhyw echrys dwrf yn rhyw fantais, buasai yr hen beirianau yn llwyddianus i ateb y dyben i'r dim, oblegyd gallesid meddwl fod un o fynyddau yr hen wlad yn nghyswllt wrth gynffon pob un o honynt!

"Gwylltent frain gelltydd y fro."

Nid oes un o'r hen arddull i'w gweled yn bresenol yn y plwyf, er fod mwy o ddefnyddio peirianau gan Gwmpeini Dowlais ar hyd fynydd Twyn-y-waun, &c., i gludo at ac oddiwrth eu Gweithiau nag a fu erioed; a'r un modd y Pentrebach, yr hwn a gaiff ein sylw nesaf.

GWAITH PLYMOUTH

Bacon oedd y gwr a wnaeth yr amod gyntaf a'r tir feddianwr, Iarll Plymouth, i'r dyben o sefydlu Gweithiau