Tudalen:Traethawd ar hanes Plwyf Merthyr.pdf/53

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Bart, A.S., yr hwn fu yn offeryn i godi y lle i'w sefyllfa bresenol. Ni chyflawnwyd yno un gorchwyl o bwys yn ei amser heb fod rhywbeth a fynasai ei law a'i galon ef a'i ddygiad yn mlaen a'i ddybenion. Efe a adeiladodd ac a drefnodd y Llyfrgell yn 1845, yr hon a gynwysai 900 gyfrolau o lyfrau Cymreig a Saesoneg, ac yn rhydd i bob ymwelydd i fyned yno i dreulio eu horiau hamddenol. Efe hefyd a adeiladodd yr Ariandy Cynilo ar ei draul ei hun, ac a gynorthwyodd tuag at adeiladu y Neuadd Ddirwestol. I'r enwog Lady Charlotte Guest, y priodolir cynllunio a dwyn oddiamgylch y Wyddonfa Gelfyddydol, (Benevolent Society,) yr hon gymdeithas sydd yn rhydd i dlodion i gyrhaedd amryfath o addysgiaeth fuddiol ac adeiladol yn ngwahanol elfenau gwybodaeth. Gorphwysai ei chymydogion a'r gweithwyr yn agos bob amser ar feddwl y waddoles urddasol hon; ac er fod gwaed breninol yn rhedeg trwy ei gwythienau, ni wnai ddiystyru unrhyw amser ei hisradd fwy na'i uwchradd. Mae wedi profi ei hun yn deilwng o'r enw yn ei wir ystyr. Cyfeithiodd amrai lyfrau o'rGymraeg i'r Saesnaeg, megis y Mabinogion, &c., yn nghyd a darnau bychain o ryddiaith a barddoniaeth, yn eu mysg, "Ymweliad y Bardd a'r Bala " a bydd ei thalent a'i llafur yn drysorau yn yr iaith Saesneg, pan y bydd hi yn huno yn nhawel ddystawrwydd y llwch. Ac er mwyn dangos rhai i ragoriaethau ei diweddar briod, dyfynwn ddarnau o Awdi fuddugol Dewi Wyn o Esyllt, ar ei farwolaeth

"Af yn awr ganrif yn ol,
Tua'r bryniau tra breiniol,
I weled ei hardaloedd,
Pa agwedd gynt arnynt oedd,
Drwy'r mynyddoedd nid oedd dy,
Na lle atal na llety.
Na braidd un llef o un bryn,
Ond hiraeth yr aderyn,
Na son am Dowlais hynod,
Chwaithach i'r fath fasnach fod,
Llwfr iawn edrychai'r holl fro,
Diffrwyth heb ddim yn deffro
Y dyn i syniad unawr
Y deuai'r fan yn Dref fawr,