darganfyddwr yn heol y Felin, Merthyr. Deuwyd o hyd hefyd i lawer o bethau yn ddiweddar o nodwedd henafol yn Nghastell Morlais, megis geingion y cerfwyr, morthwylion, hoelion, plwm, &c. Tebygol, yn ol yr arwyddion, mai ei losgi a gafodd y lle hwn idd ei ddinystrio. Gwiail oeddynt yn gwneud i fyny y tai cyntaf yn Dowlais, y rhai allwn feddwl oeddynt yn oer ac anghysurus iawn o herwydd uchder, a noethlymder y lle; ond nid hir y buwyd wedi dechreu y gwaith cyn adeiladu yma dai ceryg, y rhai a gaed o'r Twynau gwynion, ac o'r mynydd yma thraw. Y siop gyntaf o unrhyw sylw yn Dowlais, oedd un y Cwmni, a adeiladwyd ac a agorwyd yn y flwyddyn 1797, tu cefn i'r man y saif swyddfa yr Heddgeidwaid yn awr; a nodau papur £1 yr un oeddynt yn arferedig yn Ngwaith Dowlais hyd y flwyddyn 1823.
Nid oedd y gyfnewidfa hon mor ormesol a'r cyffredin o'r un enw, ond er hyny achwynai rhai o'r gweithwyr eu bod yn cael camwri.
Cyrhaeddod hyn i glustiau y Cwmpeini, fel y penderfynasant rhoddi cynygiad iddynt ar yr un a fynent yr arian nodau heb y siop, neu y siop mewn cysylltiad a'r arian nodau; ond eiliwyd yr olaf gan y mwyafrif o'r gweithwyr o herwydd barnai y rhan luosocaf eu bod yn cael eu nwyddau yn rhatach oddiyno nag o un man arall. Dywedir i'w pherchenogion fod yn golledwyr o £2,300 o bunoedd unwaith mewn cysylltiad a'r siop hon, trwy iddynt brynu ryw ystorfa fawr o nwyddau i mewn iddi yn amser drudaniaeth, gan goledd y dybiaeth y buasai pethau yn myned yn ddrutach fyth, ond yn ffodus i'r gweithwyr, er yn anffodus iddynt hwy, trodd pethau allan i'r gwrthwyneb. Yr oedd y blawd haidd y pryd hwnw yn gystal a'r blawd ceirch, yn amrywio o 7 i 10 swllt am yr 28ain pwys; a'r blawd gwenith o 10 i 12 swllt. Rhwng drudaniaeth yr ymborth ac iselder y cyflogau yr oedd canoedd os nad miloedd drwy yr ardaloedd yn goddef gradd o newyn. Gwnaeth y siop hon ei rhan yn dda tuag at ei liniaru nes i bethau gael eu adferyd i drefn eilwaith. Nis gallwn ddywedyd fod Dowlais ond yn ei fabandod cyn amser y diweddar Syr John Guest,