Tudalen:Traethawd ar hanes Plwyf Merthyr.pdf/51

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

arferiad o gynal neithiorau eto mewn rhai parthau o Gymru, ac y mae yn mysg yr Iuddewon er ys rhagor na 2,000 o flynyddau.

Anfonwyd o Jerusalem yn ddiweddar i Ferthyr, wahoddiad i Iuddewon y lle hwn fyned drosodd i ryw briodas urddasol oedd i gymeryd lle yno; ond tebygol mai nid gyda y bwriad y buasent yn myned, ond o ran ffurf o gyfarchiad yn ôl yr hen ddefod 'hon. Dywedir nad oedd un dydd yn Merthyr i'w gyffelybu i ddydd priodas, ond dydd neu ddyddiau ffair y Waun, yr hon a gynelir ar dwyn, ddwy filltir i'r gogledd-ddwyrain o'r lle hwn, man ag y mae ffeiriau yn cael eu cynal er ys rhagor nag 800 o flynyddau, ar y dyddiau canlynol o'r flwyddyn, Mawrth y 18fed, Mai y 13eg, Llun у Drindod, (a chynhelid marchnadoedd hefyd yn y lle yn yr hen amser o'r 14eg o Fai, hyd y 14eg o Hydref,) yr ail Llun yn Gorphenaf; Llun cyntaf yn Awst, Medi yr 2ail, a'r 24ain, dydd Llun ar ol Hydref y 1af, a Tach. yr 20fed. Y ffeiriau mwyaf nodedig yn y lle hwn ydynt Mai y 13eg, yr hon a elwir yn gyffredin ffair Calanmai; a'r 24ain o Fedi, yr hon a elwir yn ffair у pêr a'r afalau. Gwnawd cân i ffair y. Waun, gan Fardd difyr y Grawerth; y penill cyntaf o honi sydd rywbeth yn debyg i hyn:—

"Ar ryw brydnawn, hyfryd iawn, ymaith awn tua thref,
I'r Waun i edrych welswn neu glywswn dan y nef
Y farchnad oedd megis bloedd oll ar g'oedd yno gyd,

Mi glywn i Shon y Ffarmwr yn codi ddwndwr cuwch,
Yn mofyn saith a chweugain o fargen ar y fuwch,
A Jack o'r wlad yn cadw'i nad gwaith colli gwa'd ei gariad Gwen,
Ac arall draw'n ceg-ledu gan waeddi Rock Again.


Yn y flwyddyn 1847, cyfarfyddodd H. P. Powell, oʻr Gwernllwyn Cottage, a chwech cheiniog yn y lle hwn, o ddyddiad y Frenines Elizabeth; mae y darn hwn i'w weled yn awr yn amgueddfa Castell Nedd. Dygwyddodd i Mr. Jonathan Reynolds, (Nathan Dyfed,) gael swllt o'r un dyddiad yn agos i'r un lle. Hefyd cafodd yn y tir ddarn wyth onglog o dderw wedi ei ysgythru a'i drin, yr hwn sydd i'w weled ond galw yn nhy y