Tudalen:Traethawd ar hanes Plwyf Merthyr.pdf/50

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

helynt neu geisio rhyw neges gan rai o'i gydnabod. Yn araf deithio dros droellau yr hen brif ffordd gyda glan yr afon oddi wrth Troedyrhiw, dacw angladd rhywun o'r plwyfolion, pob un o'r olaf gymwynaswyr oeddent naili ai yn cerdded neu yn marchogaeth, am nad oedd dim cyffelyb i gerbyd mewn ymarferiad yma y cyfnod hwnw; a phell oedd yr heol o fod yn addas i'r cyfryw beth. I Bacon yr ydym yn ddyledus mewn rhan amdani yn y dullwedd presenol. Yr oedd mor igam ogam gyda'r fath oriwaered weithiau a'r fath dylau bryd arall, fel yr oedd braidd yn beryglus i'r teithiwr ei thramwy mewn unrhyw ddull. Pan yn edrych i fyny neu i waered i'r cwm, canfyddwn yn awr ac eilwaith ddeg ar ugain neu ddeugain o gyplau o ddynion ieuanc, weithiau ar draed ac weithiau ar geffylau, yn ol eu sefyllfa a'u dylanwad yn y gymydogaeth, yn cyniwair tua'r hen Eglwys, yn ddigon hapus a llawen, i'r dyben o rwymo rhyw ddau yn nghyd yn ol yr hon ddefod sydd wedi dwyn gymaint o gysur ac anghysur i dorf afrifed o deulu Adda. Arferid yma yn yr oesodd gynt gynal rhyw wledd o ddifyrwch er nwyflonianti'r pâr ieuanc ddydd eu priodas; ac yn y nos cyfarfyddai yr oll o'u cyfeillion yn y ty oeddynt wedi ei ddodrefnu i ddechreu eu gyrfa briodasol, ac yno adroddent lawer o hen helyntion a chwedleuon o bod math, er mwyn cynal eu nos yn llawen, ac yn y diwedd cyn ymadael, yr oedd pob un yn estyn ei rodd, bid fechan neu fawr, fel y derbyniai y ddau a unwyd, fe allai 40 neu 50 o bunoedd, mwy neu lai, yn ol sefyllfa y cwmpeini. Yr oedd hen ddyn yn byw ar Dwynyrodyn, yn dweyd iddo gyd gerdded unwaith gydag 50 o gyplau tua hen Eglwys Merthyr, a thra yr oedd y seremoni yn cael ei chyflawni, troai rhai eu ceffylau i'r fonwent, ac eraill i ystablau y Star, yr hwn oedd y ty bob amser ar у fath amgylchiad, a roddai fantais deg i ddyn i ffurfio barn am у ddefod hon yn yr hen oesoedd. Ac ar ol myned allan oddiyno meddai un awdwr, ymffurfiant yn gyplau a dechreuent a'r eu rhedegfeydd, a'r naill ar draws y llall, ond fynychaf y merched fyddai yn enill y gamp. Hen arferiad gan y menywod ydyw hyn. Mae yr