Tudalen:Traethawd ar hanes Plwyf Merthyr.pdf/55

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hyd ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le yn y flwyddyn 1852. Mae iddo gofgolofn hardd yn Dowlais.

Efe oedd yr offeryn penaf i ddwyn Cledrffordd Dyffryn Taf i Ferthyr Tydfil; a dywedir ei fod yn rhanol yn ngynlluniad y gwefr-hysbysydd, yr hwn sydd mor ddefnyddiol i drafnidiaeth, &c., ac yn un o brif ryfeddodau yr oesau diweddar. Anrhegodd hefyd lyfrgell Merthyr a tua 180 o gyfrolau o lyfrau Cymraeg a Saesoneg. Nid oedd neb ar a wyddom yn fwy hoff a addysg nac efe: gwnaeth drefnu ysgol ddyddiol dda yn Dowlais, yr hon a gynwysai tua 200 o ysgolheigion, tri o athrawon, a'r un nifer o athrawesau, yn cael eu cynal yn rhanol gan y Cwmpeini a cheiniogau plant y gweithwyr, heb law ysgolion dyddiol ereill sydd yma ac acw drwy'r lle. Addysgir eleni, 1863, ddwy fil o blant yn yr ysgolion a elwir ysgolion y Cwmpeini, ond yn cael eu cynal gan mwyaf gan y gweithwyr.

Cymerwn hyn yma yn engreifftiau o weithrediadau daionus Syr John. Yr oedd y gwr mawr hwn wedi trefnu llawer o gynlluniau ereill fuasent o lawer o les i'r gymydogoeth pe cawsai fyw i'w dwyn i weithrediad, ond cyn i ni gael rhagor oddiar ei law nac adnewyddu y brydles ar waith Dowlais yn 1848, yr hyn barodd lawenydd mawr i tua 5,000 o weithwyr, heblaw eu teuluoedd, yr oedd brenin braw yn taflu rhyw adflas chwerw ar y pethau hyn oll, a phob peth braidd o'n cylch, trwy ei rifo yn mhlith y meirw. Ond er iddo farw y mae ei weithredoedd eto yn llafaru yon ein mysg. Dymunem heddwch i'w lwch. Er nad oedd yn Dowlais tua 60 mlynedd yn ol ond nifer fechan o dai, a'r rhai hyny gan mwyaf yn wasgaredig yma a thraw, cynyddodd gyda'r fath frys, ac i'r fath raddau, fel y mae yn agos bob peth ag sydd yn angen ar ddyn i'w gael naill ai yn y marchnadoedd, neu yn rhai o'r mael faoedd heirdd sydd yma yn addurno ystrydoedd y lle. Ond rhaid i ni addef nad oedd y rhestrau tai a adeiladwyd yma ar y cyntaf ond rhai tra gwaelion o ran cynllun, a'r heolydd rhyngddynt yn rhy gulion i fod agos mewn ffurf iachusol i'r trigolion, er fod y lle yn sefyll tua 500 o droedfeddi uchlaw Merthyr, a dros 1,000 o droedfeddi