Tudalen:Traethawd ar hanes Plwyf Merthyr.pdf/80

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

astud a sychedig am eiriau y bywyd tragywyddol, i'r rhai hyn y pregethodd ei bregeth olaf ar y ddaiar hon, oddiwrth Jer. xvii. 7, 8; i sefyll ei brawf yn y Bontfaen; oddiyno gwysiwyd ef i Gastell Caerdydd, yn garcharor; oddiyno cymerwyd ef i garchar yn Llundain, dan y cyhuddiad o fod yn ysgrifennu a phregethu yn anffafriol i Charles II, ac yn bleidiol i Cromwell. Bu yn garcharor yno dros 11 mlynedd, pryd a'r lle y bu farw yn orfoleddus wedi ei dynnu trwy 13eg o garcharau, a chladdwyd ef yn Bunhill Fields, lle gorphwys ei weddillion hyd y boreu mawr.

Yr oedd pump o wahanol gredoau yn ymgynnull yn Cwm-y-glo, sef Bedyddwyr, Annibynwyr, Crynwyr, Presbyteriaid, ac Undodiaid, a buont fel hyn yn cydgyfarfod hyd y flwyddyn 1650, pryd aeth y Bedyddwyr i Hengoed, y Crynwyr i Fynwent-y-Crynwyr, yr Undodiaid i Gefn Coed-y-Cymer, ac arosodd y gweddill yn Cwm-y-glo, hyd adeiladiad yr Ynysgau yn y flwyddyn 1 749. Enwau y rhai fuont yn gweinidogaethu yn Cwm-y-glo a'r Ynysgau hyd yn bresennol, sydd fel y canlyn : y Parch Thomas Llewelyn, Cadben Harri Williams, yr hwn a weinidogaethodd o'r flwyddyn 1640 hyd 1673, Henry Maurice, o 1673 hyd 1683, Roger Williams, o 1683 hyd 1715, James Davies, o 1715 i 1720. Urddwyd Richard Rice yn gyd-weinidog ag ef tua'r flwyddyn 1717. Yr oedd у blaenaf yn Galvin a'r olaf yn Armin.

Yn 1747, ymrannwyd, ac aeth rhai i'r Cefn, ar gweddill i'r Ynysgau, Yna y daeth mab James Davies yn gyd-weinidog a'i dad, ac ar ei ôl ef daeth Davies, Cefn, yn y flwyddyn 1785, ac yna Evans, ar ei ôl J. Morris, sydd yn awr wedi troi at yr Eglwys Wladol, wedi hynny Jones, ac ar ei ol yntau Price Howell, yr hwn yw eu gweinidog presennol yn y flwyddyn 1863. Adgyweiriwyd y capel yn y flwyddyn 1821. Cyfarfodydd am 11, a 6.

Capel Annibynol Soar a adeiladwyd yn y flwyddyn 1803. Helaethwyd ef yn y flwyddyn 1825 ac 1841. Cyfarfodydd am 11, a 6. Gwag.

Adulam a adeiladwyd yn y flwyddyn 1831. Cyfarfodydd am 11, a 6. Gweinidog, A. Mathews.