Tudalen:Traethawd ar hanes Plwyf Merthyr.pdf/79

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i gofnodi plwyf Merthyr Tydfil, fel wedi bod yn gryd ymneillduaeth, pan oedd megys plentyn egwan, newydd adael tywyll fyd ofergoelus a thraws arglwydd aeth uchel eglwysig a phabyddol, i fyd bradwrus ac erledigaethus, yr hyn bethau oeddynt fel tonau cynddeiriog yn ymdaflu ar draws ei chyfansoddiad o bob cyfeiriad; ond er ei bod yn wannaidd ei golwg, yr oedd yn cael ei chynnal a'i meithrin gan yr hwn a fyn " weled o lafur ei enaid a chael ei ddiwallu." Cwm-y-glo, yn mhlwyf Merthyr Tydfil, y torrodd gwawr diwygiad Protestanaidd gyntaf yn Nghymru, yn ôl y tystiolaethau mwyaf cyffredin; Ie, yn y gilfach anial a mynyddig yma y blagurodd Ymneillduaeth, yr hon sydd a'i changau erbyn heddyw wedi ymledu dros rannau o bedwar ban y byd. Er fod gennym hanes fod cyfarfodydd yn cael eu cynnal ar hyd y tai yn Blaengwrach, ac mewn lleoedd anghyfannedd, mewn tri man cyn adeiladu capel Cwm-y-glo; sef yn Blaengwrach, Aberdar, a Merthyr. Y pregethwr a'r gweinidog trwyddedig cyntaf ag sydd genym hanes am dano ag oedd yn gweinidogaethu yn y lleoedd hynny oedd y Parch. Thomas Llewelyn, Glyn Eithinog, Rhigos, yr hwn oedd yn Fardd da, ac yn ysgolaig rhagorol. Yn y flwyddyn 1540, gwnaeth droi cyfieithiad Saesoneg Tyndal o'r Bibl i'r Gymraeg. Derbyniodd ei drwydded i bregethu gan yr Archesgob Grindall, ac erlidiwyd ef gan Laud am weddïo heb lyfr, a phregethu mewn lleoedd anghysegredig. Tua'r flwyddyn 1620, yr amser ymunwyd yn Cwm-y-glo, yr oedd un hen ŵr yr hwn oedd yn aelod gyda'r Bedyddwyr, a elwid yn gyffredin "Hen Saphin," yn dyfod o ardal Penybont-ar-ogwy nos Sadwrn, gan dramwy agos drwy y nos er cyrhaedd i fod mewn cyfarfod ar Hengoed boreu y Sabboth, ac oddiyno i gyfarfod prydnawn yn Cwm-y-glo.

Yn y flwyddyn 1669 gwysiwyd y duwiolfrydig Vavasor Powell, dan gyhuddiad a ddygodd George Jones, offeiriad y lle yn ei erbyn; yr hyn oedd dwyn byddin arfog i fynwent Eglwys Merthyr, pan nad oedd ganddo mewn gwirionedd, yn ôl y tystiolaethau cywiraf a fedd yr Ymneillduwyr, ond torf o tua mil o wrandawyr