Tudalen:Traethawd bywgraffyddol a beirniadol ar fywyd ac athrylith Lewis Morris.pdf/5

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

TRAETHAWD

BYWGRAFFYDDOL A BEIRNIADOL

Ar Fywyd ac Athrylith

LEWIS MORRIS

(LLYWELYN DDU O FON).

Yn fuddugol yn Eisteddfod Pont Menai, Awst, 1873.

GAN "COFNODYDD."

CYDNABYDDIR yn gyffredinol gan bawb sydd yn hyddysg yn hanes lenyddol ein gwlad fod gwrthddrych ein cofiant, sef Lewis Morris, neu fel yr adnabyddid ef ym mysg y beirdd, "Llywelyn Ddu o Fon," yn un o gymmwynaswyr penaf ei genedl, ac yn un o garwyr mwyaf gwresog ei wlad, a'r oll a berthynai iddi. Er na chyfoethogodd efe nemawr ar ei llenyddiaeth yn uniongyrchol ei hunan, eto gwnaeth wasanaeth pwysig i'w wlad yn ei waith yn noddi a chefnogi llenorion tlawd ac angenus yr oes hòno, ac yn enwedig trwy ei weithred haelfrydig a gwladgarol yn gosod i fyny yr argraffwasg, sef y gyntaf yng Ngwynedd, fel y cawn achos i sylwi eto ym mhellach ym mlaen. Yr oedd ei wladgarwch yn un o'r nodweddion mwyaf dysglaer yn ei gymmeriad, ac megys ffynnonell ddofn, ddyhyspydd, yn ymlenwi ac yn ymdori allan yn barhäus mewn ffrydiau dirif o haelfrydedd a chymmwynasau i achos llenyddiaeth a dyrchafiad ei wlad enedigol. Fel mae yn hysbys, efe fu yn foddion i ddwyn allan i'r amlwg dalent ac athrylith yr anfarwol Goronwy Owen, yng nghyd ag eiddo Ieuan Brydydd Hir, ac ereill; a'i law haelionus ef a estynodd iddynt lawer cynnorthwy amserol yn ystod eu hymdaith flinderus trwy fyd llawn o siomedigaethau a phrofedigaethau chwerwon. Ond ar yr un pryd, er cymmaint teyrnged o ddiolchgarwch sydd haeddiannol i'w goffadwriaeth oddi ar law ei gydwladwyr, mae yn rhaid addef mai prin iawn y gwnaeth hanesyddiaeth ein gwlad hyd yn hyn gyfiawnder ag ef; ac i gorff mawr y genedl, mae lle i ofni fod hyd yn oed ei enw yn anadnabyddus. Ond o ran hyny ymddengys fod esgeulusdra o'i henwogion a'i chymmwynaswyr penaf yn un o neillduolion mwyaf amlwg y genedl Gymreig, a'u bod yn penderfynu ymlynu yn gyndyn i weithredu yn unol ag ysbryd yr hen wireb, "O myni glod, bydd farw." Yr ydym, modd bynag, yn ymddwyn at goffadwriaeth Lewis Morris, yn fwy anniolchgar byth, o blegid er ei farw a'i gladdu er ys dros gan mlynedd bellach nid ydym eto wedi gwneyd dim er dangos ein hedmygedd o hono a'n rhwymedigaeth iddo fel cenedl, nac hyd yn oed prin yn gwybod am "fan fechan ei fedd" yn Eglwys