Tudalen:Traethawd bywgraffyddol a beirniadol ar fywyd ac athrylith Lewis Morris.pdf/6

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Llanbadarn Fawr, gan nad oes gymmaint a chareg wedi ei chodi i nodi allan y llecyn y gorwedda. Diffyg cofnodion credadwy yn ddiammheu ydyw un o'r rhesymau dros fod enwau a gweithredoedd cynnifer o'n gwŷr enwog mor anadnabyddus i'w holafiaid.

Ysgrifenwyd dau fyr gofiant o Lewis Morris y naill yn y Cambrian Register am 1796, a'r llall gan Dafydd Ddu o Eryri, yn y Dyddanwch Teuluaidd, a gyhoeddwyd yn 1817. Mae y cofiantau diweddarach o angenrheidrwydd yn sylfaenedig ar y rhai hyn, ond yn gymmaint a bod y naill yn gwahaniaethu cryn lawer oddi wrth y llall gyda golwg ar amryw ffeithiau pwysig yng nglŷn â'i hanes, nid gorchwyl hawdd iawn ydyw penderfynu pa un o'r ddau sydd gywiraf. Cytunant, fodd bynag, mai mab ydoedd i Morys ab Risiart Morys, o Fargaret, ei wraig, yr hon oedd ferch Morys Owen, o Fodafen y Glyn, ym mhlwyf Llanfihangel Tre'r Beirdd. Bu iddynt dri o feibion, sef Lewis, Risiart, a William Morris, a dwy ferch. Ymddengys mai gwneuthurwr llestri coed (cooper) ydoedd Morys Prisiart ar y cyntaf, ond iddo wedi hyny droi yn yd fasnachwr. Yn ol y Cambrian Register, Lewis oedd yr ieuengaf o'r plant, a dywed iddo gael ei eni ar y dydd cyntaf o Fawrth, 1702; ond D. Ddu a ddywed mai efe oedd yr henaf, a'i eni ar y 12fed o Fawrth, 1700, a hyny fel yr ymddengys ar awdurdod coflyfr Eglwys Llanfihangel Tre'r Beirdd. Haws genym gymmeryd ein harwain gan D. Ddu yn y mater hwn, yn gymmaint ag iddo ymgymmeryd ag edrych llyfrau yr Eglwys y bedyddiwyd ef, ac felly fyned i'r unig ffynnonell gyrhaeddadwy am y cyfryw wybodaeth. Gwyddys hefyd ddarfod iddo dreulio rhyw ysbaid o'i amser yn Amlwch, heb fod yn neppell o'r gymmydogaeth hono, ac felly iddo fwynhau amryw gyfleusderau i ddyfod o hyd i'r gwir; ac mae yn hysbys iddo gymmeryd llawer iawn o drafferth i chwilio i mewn i hanes lleoedd a phersonau yn Ynys Mon. Ond mae genym awdurdod L. Morris ei hunan gyda golwg ar ddyddiad ei enedigaeth, yr hyn a gytuna ag eiddo D. Ddu; ac mae yn debyg y dylem gymmeryd y cyfryw fel yn derfynol ar y pwnc. Yr awdurdod y cyfeiriwn ati ydyw ysgrif o'i eiddo yn cynnwys ei achyddiaeth, yr hon a geir yn y British Museum, o'r hwn y ceir cyfysgrif yn niwedd y traethawd hwn.

Lle ei enedigaeth sydd bwnc arall o ddadl rhwng ysgrifenwyr; y Cambrian Register a ddywed ei eni ym mhentref Eirianell, plwyf Penrhos Llugwy; ond ni chyfeiria D. Ddu at y lle hwnw o gwbl, a dywed mai yn y Tyddyn Melus, plwyf Llanfihangel Tre'r Beirdd, y cymmerodd hyny le. Nid yw Goronwy Owen, o'r tu arall, yn gwneyd un crybwylliad am y lle hwnw, tra y mynych gyfeiria at bentref Eirianell. Yn ei lythyr o Dorrington, at Mr. W. Morris, dyddiedig Mai 30, 1752, dywed, "Rhoddwch fy ngharedig anerch at eich tad a'ch mam, a dywedwch wrth eich mam fy mod hyd y dydd heddyw yn cofio ac yn diolch iddi am y frechdan fêl a gefais ganddi; ac odid na chofia hithau ddywedyd o honof y pryd hyny, Pe bai genyf gynffon mi a'i hysgydwn.'" Dylid sylwi yma mai nid pentref ond tyddyn yw Pentref Eirianell, yn y plwyf rhag grybwylledig. Y cwestiwn gan hyny ydyw, ym mha un o'r ddau le uchod y ganwyd gwrthddrych y cofiant. Yn anffodus nid yw L. Morris ei hun yn estyn i ni yr un cynnorthwy i'w ateb. Ar ol pwyso y rhesymau o blaid y naill olygiad a'r llall tueddir ni i roddi y flaenoriaeth i Tyddyn Melus fel lle ei enedigaeth; a rhoddir cyfrif am y ffaith nad yw Goronwy yn gwneyd un cyfeiriad at y lle hwnw o gwbl trwy ddweyd ddarfod i'r teulu ymadael oddi yno i Bentref Eirianell cyn ei eni ef, neu o'r hyn lleiaf cyn iddo ffurfio cydnabyddiaeth â hwy,