Tudalen:Traethawd bywgraffyddol a beirniadol ar fywyd ac athrylith Lewis Morris.pdf/7

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o blegid yr oedd L. Morris, fel y sylwir, yn henach o 22 mlynedd nag ef. Y mae L. Morris, modd bynag, yn cyfeirio at ei dad ar adeg ei briodas fel " Morris Pritchard o Bentref Eirianell," yr hyn a awgryma ei fod yn byw yno ar yr adeg hon, ac mae hyn drachefn yn taflu ammheuaeth ar y golygiad a gymmerwn. Yr unig ffordd, gan hyny, i gyssoni y gwahanol olygiadau ydyw, mai Pentref Eirianell ydoedd cartref dechreuol Mr. Pritchard, iddo ymadael am dymmor i Tyddyn Melus, a dychwelyd drachefn i'w hen gartref.

Yn y lle olaf hwn troes y tad yn yd fasnachydd, a rhoddes Lewis yntau i fyny y gelfyddyd o gylchwr, yn yr hon y dygesid ef i fyny, o blegid, fel y sylwa yn un o'i lythyrau, mai " coed masarn ac onen oedd fy athrawon gan mwyaf, neu fath o feistri pren ar y goreu." Nid ymddengys fod amgylchiadau y tad yn gyfryw ag a'i galluogai i roddi nemawr trech manteision addysg i'w feibion na'r cyffredin o'i gymmydogion; er hyny daethant oll yn enwog mewn dysgeidiaeth, gwybodaeth, defnyddioldeb, a chymmeradwyaeth—y "tri mab o ddoniau tra-mawr," fel y geilw Goronwy hwy. Risiart Morris a dreuliodd y rhan fwyaf o'i oes megys pen-ysgrifenydd cyfrifol yn y Swyddfa Forawl (Navy Office). Gwnaeth yntau, fel ei frawd, lawer o wasanaeth i achos llenyddiaeth; a bu yn llywydd Cymdeithas y Cymmrodorion yn Llundain; golygodd ddau argraffiad o'r Beibl Cymreig, os nad ychwaneg; a bu yn gymmwynaswr haelionus i Ieuan Brydydd Hir a Goronwy Owen, fel y prawf ei lythyrau. Bu yn dra ewyllysgar hefyd i estyn cymhorth i'r Parchedig Peter Williams yn y gorchwyl llafurus a bendithiol o ddwyn allan ei Feibl Cymreig, gyda nodiadau a sylwadau ar bob pennod. Bu farw yn Llundain yn 1779, a chladdwyd ef ym mynwent St. George in the East. William Morris a dreuliodd y rhan fwyaf o'i oes fel cynnullwr y doll ar yr halen ym mhorthladd Caergybi. Casglodd yng nghyd ac adysgrifodd trwy ddirfawr lafur lawer iawn o waith yr hen feirdd, a meddai wybodaeth helaeth iawn mewn llysieuaeth ac anianyddiaeth yn gyffredinol. Ysgrifenai y Parch. Evan Evans o flaen marwnad iddo fel y canlyn:—"Llysieuydd godidog, a rhagoraf ei wybodaeth yn amryw geinciau philosophyddiaeth anianol, celfydd yn iaith yr hen Frytaniaid a'r Beirdd, hynod am amryw gampau gorchestol a rhinweddau da ereill nad ydynt yn aml yng Nghymry y to yma." Bu farw yn 1766, a chladdwyd ef, fel y tybir, ym mynwent Cybi.

Yr oedd y brodyr hyn, fel y gwelir, yn meddu ar dalentau mawrion, ac yn tra rhagori ar y cyffredin o'u, cydoeswyr. Dywedir y medrai Lewis wneyd telyn a'i chwareu, gwneyd llong a'i hwylio, gwneyd cywydd a'i ddadgan gan dant. Ar ol bod yn dilyn galwedigaeth ei dad, fel y crybwyllwyd am ryw gymmaint o amser, rhoddes hi i fyny a throes yn dirfesurydd. Mae yn debyg mae ei fedrusrwydd arferol, a chyflymder naturiol ei gynneddfau, yn hytrach nag unrhyw fanteision dysgeidiaeth a fwynhaodd, a barodd dysgu o hono y cyfryw alwedigaeth. Bu ei fedr gyda'r gwaith yma, yn gystal a'i wybodaeth gyffredinol o wahanol gangenau dysgeidiaeth, yn foddion cyn hir i'w ddwyn i sylw a ffafr boneddigion ei wlad enedigol, yr hyn a arweiniodd o'r diwedd i'w ddyrchafiad i swyddogaeth berthynol i'r Dollfa yng Nghaergybi—i gasglu cyllid a threth yr halen. Nid oes sicrwydd pa bryd y cymmerodd y cyfryw benodiad le; ond mae yn debyg mai rhyw bryd cyn ei briodas, yr hon a gymmerodd le Mawrth 29, 1729. Ei wraig ydoedd Elizabeth Griffith, merch ac etifeddes Ty Fridyn, neu Ty Wrdyn, ger llaw Caergybi. Yr oedd ef y pryd hyny yn 29 oed, a hithau tua 15 oed, a bu iddynt un