Tudalen:Traethawd bywgraffyddol a beirniadol ar fywyd ac athrylith Lewis Morris.pdf/8

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mab, yr hwn a fu farw yn ieuanc, a dwy ferch o'r briodas hon. Ym mhen rhyw ysbaid o amser symmudwyd ef oddi yno i ddilyn cyffelyb alwedigaeth ym mhorthladd Aberdyfi, ger Machynlleth. Cyn ei symmudiad o Gaergybi, modd bynag, cyflawnasai un weithred o gymmwynasgarwch a haelioni tuag at ei gydwladwyr ag sydd yn adlewyrchu arno y clod mwyaf, ac yn hawlio iddo le anrhydeddus ym mysg enwogion a gwladgarwyr y Dywysogaeth. Yn cael ei gynhyrfu, gan awydd angerddol i ychwanegu at fanteision gwybodaeth ei gydoeswyr, y rhai oeddynt yn hynod brinion, ymgymmerodd yn y flwyddyn 1735 â gorchwyl ag nas gall lai na pheri i'w goffadwriaeth fod yn anwyl gan garwyr Cymru, Cymro, a Chymreig, hyd ddiwedd amser, sef prynu a gosod i fyny argraffwasg ar ei draul ei hun gyda'r amcan clodwiw o gyhoeddi llyfrau buddiol yn iaith ei gydwladwyr. Y mae y cyfryw weithred, a hon yn werth ei chofnodi mewn llythyrenau o aur, modd y gwypo oesau a ddêl pwy fu gwir gymmwynaswr ei wlad, yn enwedig pan yr ystyriom ei fod weithian yn wr priod er ys chwe mlynedd, a chanddo amryw blant ieuainc i ofalu am danynt a darparu ar eu cyfer, yng nghyd â lluaws o orchwylion pwysig ereill a gymmerai i fyny ei amser. Hon, mae yn debyg, oedd y wasg gyntaf a osodwyd i fyny yng Ngwynedd.[1] Yr oedd un eisoes yn y Deheudir, ac yno yng nghyd ag yn Llundain, yr Amwythig, a Bryste yr argreffid yr ychydig lyfrau Cymreig a gyhoeddid o bryd i bryd. Mae peth ansicrwydd gyda golwg ar y lle y gosodwyd y wasg hon i fyny.

Dywed D. Ddu, ac ereill ar ei ol, mai Bodedeyrn oedd y fan a anrhydeddwyd felly, tra dadleua y Greal o blaid Caergybi; a haws genym yn y mater hwn gymmeryd ein harwain gan yr olaf, a hyny am y rhesymau canlynol:— Yn y lle cyntaf, nid ymddengys yn debygol y dewisasai L. M. bentref fel Bodedeyrn, ryw chwech neu saith milltir oddi wrth ei gartref, at y gorchwyl o argraffu yr hyn o angenrheidrwydd a gymmerai i fyny lawer iawn o'i amser gydag arolygu ei cynnyrchion, &c. Cadarnheir y dybiaeth mai yng Nghaergybi yr oedd y wasg, yn yr ail le, gan amgylchiad a grybwyllir yn Nheithlyfrau y Parchedig John Wesley. Dywedir fod Mr. Wesley yno yn y flwyddyn 1748, ar ei daith i'r Iwerddon, ac iddo gael ei gadw yno am ryw gymmaint gan wynt croes rhag myned drosodd. Yn y cyfamser pregethai yn y dref a lleoedd amgylchynol, ac ar gais Mr. E., gweinidog Caergybi, efe a ysgrifenodd lyfryn bychan o dan y teitl, A Word to a Methodist, yr hwn a gyfieithwyd gan y gwr hwnw ac a argraffwyd yn ebrwydd. Gan hyny, y tebygolrwydd ydyw fod gwasg yng Nghaergybi ar yr adeg hono. Ymddengys mai gwasg wahanol ydoedd yr un a osodwyd i fyny ym Modedeyrn, sef eiddo un o'r enw John Rowland. Dywedir mai dau lyfryn yn unig a argraffwyd yn ystod yr amser y bu'r wasg hon yng Nghaergybi, sef yr Ymarfer o Lonyddwch, a llyfr arall o'r enw Tlysau yr Hen Oesoedd, yr hwn y bwriedid ei ddwyn allan yn rhanau, ond a roddwyd i fyny ar gyhoeddiad y rhan gyntaf. Argreffid yno hefyd fath o Almanac am rai blynyddau, yr hwn a gynnwysai gerddi a chaneuon byrion ereill. Gwerthwyd yr argraffwasg hon i Dafydd Jones o Drefriw, casglwr a chyhoeddwr cyntefig Blodeugerdd Cymru, a thaid yr argraffydd tra adnabyddus a'r bardd, y diweddar John Jones (Pyll); Llanrwst.

Gan fod anerch Lewis Morris i drigolion Gwynedd, yr hwn a welir yng Ngreal Llundain am 1805, yn

  1. Dywed awdwr llafurfawr "Llyfryddiaeth y Cymry" fod hyn yn gamgymmeriad, canys argraffesid "Holl Ddyledswydd Dyn yng Ngwrecsam er ys 17 flynedd yn flaenorol.