Tudalen:Traethawd bywgraffyddol a beirniadol ar fywyd ac athrylith Lewis Morris.pdf/9

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

egluro yr achosion a'i cynhyrfodd i ymgymmeryd â'r gorchwyl clodfawr hwn, a chan fod y cyfryw gyhoeddiad erbyn hyn mor brin, esgusodir ni am ei ddifynu. Dymunem hefyd ar yr un pryd alw sylw ein hysgrifenwyr ieuainc at arddull yr awdwr yn ysgrifenu y Gymraeg. Dealler mai gwaith golygwyr y Greal ydyw yr arweiniad. "Annogaeth i argraffu llyfrau Cymreig. Rhodded yr argraffwasg ar waith yng Nghaer Gybi, B.A. 1735, gan Llewelyn Ddu o Fon, er amcanu gosod Tlysau yr Hen Oesoedd ger bron ei gyfoedion; eithr, o wall ymgeledd, gorchwyl fethiannus fu hòno, fel llawer un arall o'r fath yng Nghymru, a gwael y dynged na buasai amgen, meddwn ni; ond barned y darllenydd ai nad oedd pwys yn chwedl y gwr a roddes ei law yn y gwaith, yr hwn sydd yn rhagymadrodd fel hyn:—

"At Drigolion Gwynedd,—Pwy bynag na fedro roddi gair da i hyn o orchwyl, harddach iddo na ddywedo ddim, canys pwy yn ei gof darawsai'r llaw a fai yn cynnyg cymhorth, er gwaeled fyddai? ac nid ydyw yn chwareu teg enllibo gwr dyeithr yn ei gefn. Beth a wyddech chwi na fedr ateb drosto ei hun pe bai yn y fan? Os ffol a fûm am fyned i gost fawr er mwyn lles i'm gwlad (tygaswn i), y peth lleiaf a allech yw esgusodi gwr gwirion. Pwy ŵyr flas peth nes ei brofi? Wele, gan hyny, yn dyfod atoch i ofyn eich nodded, forwyndod yr argraffwasg cyntaf erioed yng Ngwynedd. Os da fydd y peth yn eich golwg, chwi a rowch fywyd iddo, os amgen, dychweled i'r llwch o'r lle y daeth. Llawenychasai'ch hen deidiau pe gwelsent y cyfryw beth; nid oes ammheu nad digio a wna rhai o honoch chwi; dylaswn fyned i wlad arall i ddechreu prophwydo."

Er mwyn denu y Cymry Seisnigaidd i ddarllen Cymraeg, ac i graffu ar beth na chlywsant erioed braidd son am dano (sef bod dysg a gwybodaeth yng Nghymru ), rhoddais y cynnwysiadau yn Seisoneg. Na ddigiwch gan hyny wrth y cymmysg; bernwch pan wypoch y cwbl. Da iawn y gwn i mai gwir a ddywed yr Hen Wŷr, "A fo gwas cyffredin byd, hwyr y caiff ei dâl;" canys dyled ar bawb nid yw ddyled ar neb. Eto chwi welwch, er gwybod hyn, i mi dori trwy reol callineb i'ch gweini chwi.

"Pe'r edrychem ar fyrdra oes dyn, ac ar ei gwagedd, nid oes neb mor gibddall na welai mai ffolineb yw bydol ddoethineb; a byddem fwy caredig i'r genedl sy'n dyfod ar ein hol. Anifeilaidd yw'r dyn a adawai blant y byd mewn tywyllwch, lle y gallai â chanwyll ffyrling eu goleuo " Gwell gwae fi na gwae ni.” Yr argraffwasg, medd y doethion, yw canwyll y byd a rhyddid plant Prydain. Pam i ninnau ( a fuom wŷr glewion gynt, os oes coel arnom) na cheisiwn beth o'r goleuni? Swllt o bwrs pob un o honoch, tuag at y papyr a'r gwaith, a lanwai'r wlad o lyfrau da, ac a llawer o fwynder a dyddanwch, ac a gadwai eich enwau i dragwyddoldeb, fel cenedloedd ereill. Oni wnewch hyn, gwnewch a fynoch; Duw gyda chwi, yw dymuniad eich ufudd wasanaethwr,

"L. Morris."

Gweler oddi wrth y dyfyniad uchod fel y medrai Llywelyn Ddu gordeddu brawddegau Cymreig. Mor drwyadl Gymreig, ac mor bur ei ieithwedd. Ni pherthyna iddi ddim llygriad estronol, na dim o'r chwyddiaith bombastaidd ag sydd, ysywaeth, yn nodweddu rhai o ysgrifenwyr yr oes gonsetlyd hon. Mae y Gymraeg i'w gweled yma yn ei gwisg gynhenid ei hun, heb ddim ffug addurnwaith estronol; ac fel awyr iach mynydd-dir Cymru ei hun mae yn iechyd ac adfywiad cael anadlu ennyd o honi. Beth all fod yn fyrach, yn fwy syml, pwrpasol, a dirodres na'r brawddegau uchod? A lle y ceir y fath gywreinrwydd ymadrodd yn gymhlethedig ag eglurdeb a byrdra ar yr un pryd? Yn wir, wrth ddarllen yr anerchiad